Mae elusen Taclo’r Taclau wedi lansio apêl frys am wybodaeth ynghylch pobol sy’n cario arfau yng Nghymru.

Y llynedd, cafodd ymgyrch gyntaf Ni Fydd Tawelwch yn Rhoi Stop ar y Trais ei chynnal, ac ymatebodd y cyhoedd yn gadarnhaol iddi, meddai’r elusen.

Bu cynnydd o 17% yn y wybodaeth ynghylch gangiau, cynnydd o 15% ynghylch gwerthwyr cyffuriau, a chynnydd o 5% yn y wybodaeth am ddrylliau wedi’r ymgyrch ddiwethaf.

Er bod ystadegau swyddogol yn dangos bod troseddau â chyllyll wedi gostwng am bedwar chwarter yn olynol, mae Taclo’r Taclau yn rhybuddio nad oes lle i laesu dwylo.

Bu farw 275 o bobol yn sgil digwyddiadau yn ymwneud a chyllyll neu arfau miniog eraill yng Nghymru a Lloegr y llynedd.

Yn 2019, ni chafodd hanner y troseddau treisgar dros y Deyrnas Unedig eu hadrodd i’r heddlu, ac mae Taclo’r Taclau am roi gwybod i bawb yng Nghymru eu bod nhw’n gallu rhoi gwybodaeth yn ddienw er mwyn atal neu ddatrys troseddau o’r fath.

“Gallwch chi wastad droi’n ôl”

“Gyda thrais a throseddau gan gangiau’n broblem barhaus, ond un y gellir ei stopio, mae ein helusen yn ail-lansio ein hymgyrch ac yn cefnogi agwedd iechyd cyhoeddus tuag at fynd i’r afael â thrais,” meddai Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Taclo’r Taclau yng Nghymru.

“Mae hyn yn golygu cydnabod bod angen ymateb gan y gymdeithas gyfan, felly rydyn ni’n annog pobol yng Nghymru – sy’n gwybod am rai sy’n cario arfau neu’n ymwneud â throseddau treisgar – i beidio cael eu distewi, ond i siarad â ni yn ddienw.

“Rydyn ni’n gwybod y byddech chi efallai’n agos at drosedd eich hunain ond eisiau gwneud y peth iawn a dod â thrais yn eich cymuned i ben.

“Waeth pa mor bell ydych chi wedi mynd lawr y ffordd anghywir – gallwch chi wastad droi’n ôl. Mae gennych chi opsiynau.

“Mae gennych chi’r gallu i atal troseddau treisgar drwy ddweud wrthym ni beth rydych chi ei wybod cyn ymosodiadau treisgar sydd wedi’u cynllunio, neu drwy basio gwybodaeth ymlaen a all helpu i ddatrys troseddau a rhoi cyfiawnder i ddioddefwyr a theuluoedd.”

I adrodd am droseddau’n ddienw, dylai pobol gysylltu â Taclo’r Taclau.