Fe wnaeth dynes 98 oed herio tri pherson oedd yn trio lladrata o’i thŷ yn Wrecsam, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd yr heddlu bod tri pherson wedi mynd mewn i dŷ yn Camberley Drive, Wrecsam nos Fercher (15 Medi).

Fe wnaethon nhw lanast “gan daflu dodrefn o gwmpas er mwyn dod o hyd i eitemau gwerthfawr” cyn i’r ddynes 98 oed oedd yn byw yno glywed sŵn a’u herio nhw.

Gadawodd y tri yn waglaw.

Dywedodd yr Arolygydd Luke Hughes “na chafodd y ddynes ei hanafu yn y digwyddiad hwn, ond ei bod mewn sioc”.

Ychwanegodd y bydd hi, “heb amheuaeth”, wedi’i heffeithio gan y lladrad.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y tri – dynion, maen nhw’n credu – neu’n apelio ar unrhyw un sydd â fideo teledu cylch cyfyng (CCTV) o’r ardal tua 11:30pm nos Fercher i gysylltu â nhw.