Mae Prif Weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi wfftio beirniadaeth gan Tsieina yn dilyn cytundeb ar y cyd gyda’r Unol Daleithiau a Phrydain am longau tanfor niwclear.

Fe fydd ymateb Tsieina yn chwyrn ar ôl i Joe Biden,  Scott Morrison a Boris Johnson gyhoeddi yr wythnos hon eu bod wedi dod i gytundeb i ddarparu fflyd o wyth  longau tanfor niwclear i Awstralia.

Dywedodd llefarydd ar ran materion tramor Tsieina, Zhao Lijian, bod yr Unol Daleithiau a Phrydain yn “hynod anghyfrifol” am roi’r dechnoleg niwclear i Awstralia.

Ond dywedodd Scott Morrison bod Awstralia eisiau hybu heddwch a sefydlogrwydd yn y rhanbarth Indo-Pasiffig.

Mae’r newyddion wedi cael croeso cynnes yn Singapore. Ond mae arweinwyr yn Ffrainc wedi bod yn feirniadol o’r cynllun sy’n golygu bod eu cytundeb i adeiladu 12 llong danfor gonfensiynol i Awstralia wedi dod i ben.

Mae disgwyl i Scott Morrison ymweld â’r Unol Daleithiau wythnos nesaf am y tro cyntaf ers i Joe Biden ddod yn arlywydd.