Dylai atal trais yn erbyn menywod gael ei ystyried yn flaenoriaeth mor uchel â gwrthderfysgaeth, meddai pwyllgor arolygu’r heddlu.

Daeth yr alwad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) wedi iddyn nhw ddod o hyd i “broblemau, anhafalrwydd ac anghysondebau” yn ffordd mae’r heddlu’n delio â’r “epidemig” o drais yn erbyn menywod yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd yr arolygiaeth bod ymateb yr heddlu i’r fath droseddau a dioddefwyr “wedi gwella” yn y bum mlynedd ddiwethaf, ond bod pryderon yn dal i fod.

Roedd y rheiny yn cynnwys “amrywiaeth syfrdanol” yn y ffordd mae gwahanol luoedd yng Nghymru a Lloegr yn mynd i’r afael â chamdriniaeth ddomestig.

“Hanfodol” blaenoriaethu

Dywedodd yr Arolygiaeth bod gwahaniaethau “anferth” yn y ffordd mae lluoedd heddlu yn defnyddio’r Rhaglen Datgelu Trais Domestig (DVDS) i roi gwybodaeth gyfrinachol am record droseddol person i rywun a allai fod mewn peryg o gamdriniaeth yn y dyfodol.

“Pan rydych chi’n edrych ar hierarchaeth blaenoriaethau o fewn lluoedd heddlu, yn aml iawn dydi trais yn erbyn menywod ddim yn cyrraedd y tri uchaf,” meddai Zoe Billingham, Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.

“O ystyried graddfa’r epidemig… mae’n hanfodol ei fod [yn cyrraedd y tri uchaf].”

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod tua hanner (52%) y ceisiadau DVDS gafodd eu gwneud gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 wedi arwain at ddatgelu gwybodaeth i ddioddefwr posib.

39% o geisiadau gan aelodau o’r cyhoedd – megis partneriaid troseddwyr posib – arweiniodd at ddatgelu gwybodaeth, er gall hyn fod oherwydd bod diffyg gwybodaeth i’w basio ymlaen weithiau.

Dywedodd hefyd bod tua thri ymhob pedwar achos o gam-drin domestig sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu, ddim yn arwain at  gyhuddiad.

Ni wnaeth lluoedd heddlu gynnig tystiolaeth i ddangos pam bod cyn lleied o ddatgeliadau “hawl i wybod” wedi’u gwneud, na pham bod “amrywiaeth syfrdanol” rhwng lluoedd wrth ollwng achosion o gam-drin domestig honedig.

“Newid sylweddol”

“Rydyn ni angen gwneud newid sylweddol os yw trais yn erbyn menywod am gael ei newid,” meddai Zoe Billingham, wrth ddweud y bydd ymchwil pellach.

Dywedodd y dylai prif gwnstabliaid “fynd i’r afael â’r mater ar unwaith” er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd safonau uchel yn gyson wrth ddelio â’r fath droseddau.

“Mae trais yn erbyn menywod yn creu niwed anfesuradwy, ond yn rhy aml dydi’r cyfuniad hwn o droseddau sy’n effeithio ar fenywod a merched yn anghymesur ddim yn cael yr un flaenoriaeth â mathau eraill o droseddau.

“Dylen nhw gael yr un flaenoriaeth ag sydd ar gyfer y mathau hynny o droseddau (gwrthderfysgaeth).

“Os ydyn ni am ofyn i heddlu ar y rheng flaen: ‘Be sy’n bwysig i chi ei wneud heddiw?’ hoffwn glywed: ‘Cadw menywod a merched yn ddiogel fel eu bod nhw’n gallu byw eu bywyd o ddydd i ddydd, yn rhydd rhag ofn, ac yn rhydd rhag niwed a’r perygl o niwed’.

“Byddai hynny’n ganlyniad gwych i ni.”

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel ar ôl llofruddiaeth Sarah Everard ger Clapham Common yn ne Llundain fis Mawrth.

Mae disgwyl i Wayne Couzens, a oedd yn swyddog gyda Heddlu’r Metropolitan, gael ei ddedfrydu am ei llofruddio’n hwyrach fis yma.

Ar ôl y digwyddiad, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud eu bod nhw am dargedu aflonyddu rhywiol ymysg y mesurau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.