Mae cyfarfod o Gyngor Sir Fynwy i drafod prosiectau cyflogaeth a sgiliau yn y sir, wedi’i ganslo oherwydd nad oedd digon o gynghorwyr ar gael.
Nid oedd modd cynnal cyfarfod arbennig o bwyllgor dethol economi a datblygu’r cyngor sir ddydd Iau (16 Medi).
Fe wnaeth saith o’r 10 cynghorydd ar y pwyllgor gynnig ymddiheuriadau am eu habsenoldeb, yn ôl gwefan Cyngor Sir Fynwy.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Jordan, cadeirydd y pwyllgor dethol, i swyddogion y cyngor a’r aelod cabinet yn y cyfarfod.
“Yn anffodus gan nad yw’r cyfarfod hwn wedi ei fynychu yn llawn, ni allwn fwrw ymlaen â’r cyfarfod.
“Bydd yn cael ei ohirio tan y pwyllgor dethol nesaf ar gyfer yr economi a datblygu.”
Roedd adroddiad i fod i gael ei drafod ar brosiectau cyflogaeth a sgiliau, oedd wedi ei ohirio o gyfarfod ar 7 Medi oherwydd fod gan y pwyllgor “lwyth gwaith sylweddol”, yn ôl cofnodion y cyngor.
Prosiectau gwerth £2.4m
Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n cael eu cyflawni gan dîm cyflogaeth a sgiliau’r cyngor ac yn cynnig cyfle i gynghorwyr graffu ar gynigion i ail-ddatblygu presenoldeb y tîm ar y we.
Mae’r tîm, sydd wedi’i ailstrwythuro, yn arwain ar brosiectau sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2.4 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon.
Mae’r prosiectau sy’n cael eu cyflwyno yn cynnwys Kickstart – rhaglen a ddatblygwyd mewn ymateb i Covid-19 gyda’r nod o greu miloedd o swyddi newydd – ac InFuSe, cynllun sy’n anelu at feithrin sgiliau a gallu i arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan nad oedd yr aelodau’n gallu bod yn bresennol am amrywiaeth o resymau gan gynnwys salwch, marwolaeth deuluol, cyfrifoldebau gofalu ac ymrwymiadau gwaith.
“Daeth yr holl ddigwyddiadau anffodus hyn ar yr un pryd, ond yn ffodus nid yw’n adroddiad sy’n sensitif i amser a bydd nawr yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref.”
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod fel yr eitem gyntaf o fusnes yng nghyfarfod nesaf cyfarfod y pwyllgor dethol ar 21 Hydref.