Mae cynllun dadleuol i adeiladu estyniad i dŷ ger Nefyn wedi cael ei gyfeirio at yr Arolygiaeth Gynllunio.

Roedd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthod caniatâd ddwywaith i adeiladu’r estyniad yn Tan y Mynydd, gyda chynghorwyr yn mynd yn erbyn cyngor swyddogion.

Bydd y gair olaf ar y cais yn cael ei wneud gan arolygwyr o Gaerdydd yn dilyn apêl yn erbyn penderfyniad y cynghorwyr sir.

Beverly Hills neu Forfa Nefyn?

Mae’r cynlluniau’n cynnwys dymchwel adeilad allanol i wneud lle ar gyfer estyniad dau lawr yng nghefn yr adeilad.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, wrth drafod y cynlluniau ym Medi 2020, bod yr estyniad yn “fwy addas i Beverly Hills na Mynydd Nefyn”.

Fe wnaeth cynghorwyr wrthod y cais, gan honni y byddai’r estyniad yn amharu ar leoliad sydd wedi ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Ychwanegodd y cynghorwyr bod “ymddangosiad, graddfa a maint” yr estyniad yn “anghydnaws â chymeriad yr ardal.”

Roedd Gruff Williams, y cynghorydd dros ward Nefyn, yn un o’r rhai wnaeth wrthwynebu’r cynlluniau.

“Mae gennym ddyletswydd statudol i amddiffyn yr AHNE, a’r hyn sydd yno ar hyn o bryd ar Fynydd Nefyn yw cyfres o fythynnod gwyn hanesyddol,” meddai.

“Beth dydyn ni ddim angen yma yw gorddatblygu ac effeithiau ar y golygfeydd tu fewn a thu allan o’r AHNE.

“Rydyn ni’n gwybod beth ddigwyddodd ym Mhlas Pistyll, mae’n rhaid i’r boneddigeiddio hwn ddod i ben.”

Cynlluniau estyniad Tan y Mynydd

Cynghorwyr wedi eu “dylanwadu”

Mae Warren Hadlow, sy’n gyfrifol am y cais cynllunio, wedi herio’r penderfyniad gwreiddiol, gan honni bod cynghorwyr wedi eu “dylanwadu” gan “ystyriaethau haniaethol.”

Roedd o wedi ceisio newid elfennau o’r cynlluniau i fod yn “fwy tebyg i‘r adeiladau cyfagos a’r adeilad presennol.”

“Dylid nodi bod aelodau, o’r ddadl yn y Pwyllgor Cynllunio, wedi cyfeirio at nifer o ystyriaethau haniaethol, a gellir dadlau eu bod nhw wedi eu dylanwadu’n ormodol wrth benderfynu gwrthod,” meddai.

“Er enghraifft, y mater gwyliau neu ail gartrefi, sydd ddim yn berthnasol yma achos mai preswylfa barhaol fyddai, a’r cynnydd posibl mewn gwerth ariannol ac ati.

“Roedd yn ymddangos bod y materion hyn wedi dylanwadu’n gryf ar eu penderfyniad i wrthod a dim ond ar ôl i’r Swyddog Cynllunio eu cynghori a’u hatgoffa bod angen rhesymau cynllunio clir arnyn nhw, a gafodd ei wrthod ar sail effaith weledol.”

Bydd penderfyniad terfynol gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn cael ei wneud dros y misoedd nesaf.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cael cynnig i wneud sylw.