Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi beirniadu hysbysfyrddau gwrth-frenhiniaeth sy’n ymddangos ar draws De Cymru.

Mae’r posteri yn cynnwys delwedd o Dywysog Cymru, gyda’r geiriau “Nad [sic] oes angen tywysog ar Gymru” wedi eu codi yng Nghaerdydd, Aberdâr ac Abertawe.

Grŵp ‘Republic’ sydd y tu ôl i’r ymgyrch a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd yr hysbysfyrddiadau’n “sbarduno dadl gyhoeddus wedi’i hadfywio am y frenhiniaeth a sut rydyn ni’n cael ein llywodraethu”.

Dywedodd Andrew RT ar ei gyfrif Twitter: “Mae’r Teulu Brenhinol yn boblogaidd dros yng Nghymru.

“Dydy’r ymgyrch hysbysfyrddau diweddar, sydd wedi ei chefnogi gan werthinwaethwyr ymylol, ddim yn gynrychiolaeth o farnau na blaenoriaethau pobl Cymru o gwbl.”

‘Snowflake’

Mae Aelod o’r Senedd, Alun Davies wedi ymateb i Andrew RT Davies gan ei alw’n ‘snowflake’ sy’n golygu person sy’n cael ei frifo’n hawdd gan ddatganiadau neu weithredoedd pobl eraill.

Dywedodd yr AoS dros Lafur dros ei gyfrif twitter: “Am snowflake. Dwyt ti ddim yn gallu treulio hanner o dy fywyd yn achwyn am ‘Cancel Culture’ ac yna gwyno pan wyt ti’n gweld rhywbeth dwyt ti ddim yn hoffi.”

Mae’r grŵp Republic wedi codi dros £25,000 ar gyfer yr ymgyrch ac yn dadlau bod y “Y Frenhiniaeth yn anghywir mewn egwyddor, yn anghywir yn ymarferol, ac mae’n ddrwg i wleidyddiaeth Prydain.”

Mae’r grŵp yn dadlau ar eu gwefan bod “swyddfa gyhoeddus etifeddol yn mynd yn erbyn pob egwyddor ddemocrataidd”.

Ond er y gefnogaeth mae rhai wedi tynnu sylw at gywirdeb ieithyddol y posteri gan y dylai’r poster ddarllen Fe ddylai’r poster ddarllen “Nid” yn hytrach na “Nad” ar ddechrau’r frawddeg.

Dywedodd colofnydd Golwg, Cris Dafis: “Neis. Ond roeddwn i wir yn gobeithio y bydden nhw wedi cael y Gymraeg yn gywir”.

Sgandal

Mae Sefydliad Tywysog Charles wedi bod ynghlwm wrth adroddiadu am gamymddwyn ariannol yn ddiweddar.

Mae Cadeirydd Sefydliad Tywysog Charles, Douglas Connell, wedi ymddiswyddo, gan ddweud ei fod yn pryderu yn dilyn adroddiadau fod y mudiad wedi derbyn cyfraniad ariannol o fwy na £500,000 gan gyfrannwr Rwsiaidd.

Daw hyn wedi i gyn brif-weithredwr Sefydliad y Tywysog, Michael Fawcett, gamu o’r neilltu dros dro yn sgil honiadau ei fod wedi derbyn arian gan ŵr busnes o Saudia Arabia yn gyfnewid am anrhydedd.

Mae Mr Fawcett nawr yn wynebu ymchwiliad gan yr Heddlu.

Does gan Dywysog Cymru “ddim gwybodaeth” am y mater, meddai Clarence House wythnos diwethaf, ar ôl i’r achos gael ei gyfeirio at yr heddlu.

Cadeirydd Sefydliad Tywysog Charles wedi ymddiswyddo yn sgil pryderon am gyfraniad o fwy na £500,000 gan ddyn busnes Rwsieg

Douglas Connell yn dweud y dylai gymryd cyfrifoldeb “os yw’n ymddangos bod camymddwyn difrifol wedi digwydd”