Mae 86.9% o bobol 16-24 oed yng Nghymru bellach yn debygol o fod gyda gwrthgyrff Covid-19, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Awgryma presenoldeb gwrthgyrff Covid-19 bod rhywun wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi cael ei frechu.
Mae’n cymryd rhwng pythefnos a thair wythnos ar ôl i rywun gael ei heintio neu ei frechu i’r corff wneud digon o wrthgyrff i ymladd y feirws.
Yna maent yn aros yn y gwaed ar lefelau isel, er y gall y rhain ostwng dros amser i’r pwynt na all profion eu canfod mwyach.
Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn seiliedig ar sampl o ganlyniadau profion gwaed ar gyfer yr wythnos wnaeth ddechrau ar 23 Awst.
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer pobol mewn cartrefi preifat ac nid ydynt yn cynnwys lleoliadau fel ysbytai a chartrefi gofal.
Mae dosau cyntaf y brechlyn wedi bod ar gael i bobl ifanc 16 ac 17 oed ers sawl wythnos, tra bod oedolion ifanc 18 oed a throsodd wedi bod yn gymwys i gael pigiad ers mis Mehefin – mae hyn wedi gweld y ganran â gwrthgyrff yn codi o 63.4% i 86.9% dros y cyfnod hwnnw.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu bod gan y rhai rhwng 25 a 64 oed lefelau gwrthgyrff tebyg neu ychydig yn uwch na’r rhai 65 oed a throsodd,” meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Mae hyn yn unol â brechiadau i lawer o’r rhai mewn grwpiau oedran iau sy’n digwydd yn fwy diweddar.”
Mwy nag un o bob pump oedolyn dan 40 oed dal heb eu brechu
Fodd bynnag, mae mwy nag un o bob pump oedolyn o dan 40 oed heb dderbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19 o hyd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Yr amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer canran y bobl ifanc 18 i 39 oed sydd heb eu brechu yng Nghymru yw 23%.
Mae’r ystadegau’n awgrymu bod lleiafrif mawr o oedolion ifanc yn dal i fod yn amharod i gael y brechlyn, er gwaethaf llu o fentrau i annog pobl i gymryd rhan, gan gynnwys ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a chanolfannau brechu dros dro cyfleus.
Ymhlith pobl ifanc 18 i 29 oed, mae canran y bobl sydd heb eu brechu yng Nghymru hefyd yn 23%.
Golyga hyn fod oddeutu 237,000 o bobl yng Nghymru sy’n gymwys i gael pigiad heb dderbyn unrhyw frechlyn.