Mae pobol wedi dechrau derbyn dos atgyfnerthu o frechlyn Covid-19 yng Nghymru.
Daeth y cyhoeddiad bod y rhaglen frechu atgyfnerthu wedi cychwyn gan Lywodraeth Cymru heddiw (16 Medi).
Staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y Gogledd oedd y rhai cyntaf i gael eu brechu, ddyddiau’n unig ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) gyhoeddi cyngor ynglŷn â gwneud hynny yn ystod yr hydref.
Bydd pawb dros 50 oed yng Nghymru yn cael derbyn dos pellach o’r brechlyn yng Nghymru, yn ogystal â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ac unigolion bregus.
Nid yw’r JCVI wedi cadarnhau cyngor eto ar y syniad o oedolion eraill yn cael dos atgyfnerthu cyn y gaeaf.
Bydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dechrau ar ei raglen brechu atgyfnerthu ddydd Sadwrn (17 Medi), gan flaenoriaethu unigolion sydd mewn cartrefi gofal.
Mae’r holl fyrddau iechyd eraill wedi cadarnhau y byddan nhw’n cychwyn y rhaglen frechu newydd o ddydd Mawrth (20 Medi).
Annog y brechlyn
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi heddiw y bydd plant 12 i 15 oed yn dechrau cael gwahoddiadau ar gyfer eu dos cyntaf o’r brechlyn o 4 Hydref ymlaen.
Bydd pob brechlyn yn parhau i gael eu darparu naill ai mewn cartrefi gofal, canolfannau brechu torfol, ysbytai, neu feddygfeydd.
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bwysleisio pwysigrwydd derbyn y gwahoddiad i gael eu dos nesaf o’r brechlyn.
“Byddwn i’n annog pawb sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu fanteisio ar y cynnig pan fyddan nhw’n cael eu galw am apwyntiad, gan fod posibilrwydd y bydd imiwnedd o’u dosau cynharach o’r brechlyn yn lleihau wrth i amser fynd heibio,” meddai.
“Os nad ydych chi wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn eto, dydy hi ddim yn rhy hwyr.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd heb fanteisio ar y cynnig eto i wneud hynny.”
“Amddiffyniad cryfaf rhag y feirws”
Mae Dr Gill Richardson, dirprwy brif swyddog meddygol ar gyfer brechlynnau, yn dweud bod y brechlynnau atgyfnerthu am liniaru effeithiau Covid-19 ar unigolion ymhellach.
“Rydyn ni eisoes wedi gweld y manteision sy’n deillio o sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl wedi cael eu brechu ac rydyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn drwy gydol yr haf,” meddai.
“Brechlynnau yw ein hamddiffyniad cryfaf o hyd rhag y feirws ac i gynnal y lefelau imiwnedd sydd wedi eu cyflawni gan bobl.”