Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 88 oed o Fetws yn Rhos ger Abergele fynd ar goll.

Fe gafodd James Berger ei weld diwethaf ddydd Mercher, 8 Medi, yn dod oddi ar fws ger Swyddfa’r Post, Beddgelert.

Mae’n bosib bod y gŵr wedi bod yn cerdded ar fynyddoedd yn yr ardal, gyda’r heddlu’n nodi ei fod wedi dringo mynydd Cnicht ger Porthmadog yn y gorffennol.

Apêl

Cyhoeddodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru ddatganiad heddiw (16 Medi) am yr ymchwiliad.

“Mae gennym bryderon am Mr James Berger, 88, o ardal Betws yn Rhos,” meddai.

“Fe’i gwelwyd ddiwethaf yn mynd oddi ar y bws am 2pm ar ddydd Mercher 8 Medi 2021 tu allan i’r Swyddfa Bost ym Meddgelert.

“Roedd yn gwisgo siwmper frowngoch ac yn cario bag gwyn.

“Mae’n hysbys ei fod yn gyfarwydd gyda’r ardal, ac mae wedi dringo Cnicht yn y gorffennol.”

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu nhw gyda rhif ffôn 101, neu drwy sgwrs fyw ar y we, gan ddefnyddio’r cyfeirnod Z136242.