Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ofni y bydd hwb ariannol o £500,000 i wella mynediad at ddiffiblwyr yng Nghymru yn annigonol.

Ddoe (Medi 15) fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru buddsoddiad o hanner miliwn o bunnoedd ychwanegol i wella mynediad cymunedol at ddiffiblwyr er mwyn rhoi hwb i gyfraddau goroesi ataliad ar y galon oedd yn digwydd y tu allan i’r ysbyty.

Er bod y Ceidwadwyr yn croesawu y buddsoddiad ychwanegol maen nhw’n ofni nad yw’n ddigon i fynd i’r afael â’r cyfraddau ataliad ar y galon ar hyn o bryd.

“Rwy’n ofni bod £500,000 yn swm pitw ac nid yw’n ddigon i sicrhau newid ystyrlon,” meddai Tom Giffard, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Chwaraeon.

“Dylai achub bywydau fod yn brif flaenoriaeth i wleidyddion o bob lliw, ac mae gwella mynediad i ddiffiblwyr, a gosod mwy ohonynt, yn allweddol i hynny oherwydd po fwyaf o ddiffiblwyr sydd gennym, y mwyaf o fywydau y gallwn eu hachub.”

Ar hyn o bryd mae 5,423 o ddiffiblwyr cyhoeddus wedi’u cofrestru gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol.

Ond mae tua 6,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru yn dioddef ataliad sydyn ar y galon.

Sgiliau CPR ar y cwricwlwm

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi bod yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno sgiliau achub bywyd i gwricwlwm newydd Cymru i ddysgu pobl ifanc am sgiliau CPR a difiblwyr.

“Mae’n drueni na adawodd aelodau Llafur wleidyddiaeth y pleidiau wrth y drws a chefnogi ein cynnig a fyddai wedi rhoi gwell cyfle i sefydliadau a chlybiau chwaraeon brynu a gosod ddifiblwr.”

Cyhoeddodd gweinidogion Llafur yr arian ychwanegol ar yr un diwrnod oedd Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl am y pwnc ar lawr y siambr.

Daw hyn ar ôl i sylw yn y wasg am ataliadau ar y galon yr haf hwn gyda nifer o farwolaethau proffil uchel fel y pêl-droediwr Christian Eriksen, yn ogsytal â rhai yng Nghymru.

Fis diwethaf bu farw Alex Evans, 31 ar y cae chwarae yng Nghlwb Rygbi Cwmllynfell.

Fis Gorffennaf fe gyhoeddodd y llywodraeth gyllid pellach o £2.5m dros y tair blynedd nesaf ar gyfer Achub Bywyd Cymru.

Canolfannau Chwaraeon

Bydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at alluogi adeiladau cymunedol a meysydd chwaraeon i gael mynediad at ddiffiblwr.

Amcangyfrifir bod siawns claf o oroesi ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty yn gostwng 10 y cant gyda phob munud sy’n pasio.

Drwy osod peirannau hyn mewn lleoliadau cymunedol, y gobaith yw gwella cyfraddau goroesi’r rhai sy’n dioddef ataliad ar y galon y tu allan i ysbyty.

Alex Evans

Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw ar y cae

Roedd Alex Evans yn chwarae i Gwmllynfell yn erbyn Creunant pan gafodd ei daro’n wael

Ymgyrchydd yn galw am ragor o hyfforddiant CPR a diffibrilwyr yng Nghymru

Gwern ab Arwel

“Mae llefydd fel Ffrainc, Swistir a Norwy efo diffibs rownd bob cornel, ac mae’r ffigyrau o bobol sy’n byw ar ôl cael trawiad lot uwch”