Gall cytundeb newydd rhwng Llywodraeth Prydain a chwmni CF Fertilisers, sy’n cynhyrchu carbon deuocsid, gostio “degau o filiynau” o bunnoedd i drethdalwyr.

Roedd y Llywodraeth wedi cyfrannu arian i’r cwmni er mwyn ailddechrau cynhyrchu carbon deuocsid, yn dilyn pryderon dybryd gan y diwydiant amaeth a’r diwydiant bwyd a diod.

Mae’r sylwedd yn cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu bwyd a diod, yn enwedig wrth wneud anifeiliaid yn anymwybodol cyn eu difa ac wrth becynnu bwyd er mwyn ymestyn ei oes.

Ond mae’n debyg bydd Llywodraeth Prydain yn rhoi miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i helpu i ailagor ffatri CF Fertilisers yn Teesside dros y tair wythnos nesaf.

“Aflonyddwch mawr”

Roedd George Eustice, yr Ysgrifennydd Amgylchedd yn San Steffan, yn dweud bod rhaid iddyn nhw roi’r arian hynny i amddiffyn cyflenwadau bwyd.

“Pe baen ni heb weithredu erbyn y penwythnos hwn neu ddechrau’r wythnos nesaf, byddai angen i rai o’r gweithfeydd prosesu dofednod gau,” meddai ar Sky News.

“Yna, byddai problemau ynglŷn â lles anifeiliaid oherwydd byddai llawer o ieir ar ffermydd yn methu cael eu lladd ar amser ac y byddai’n rhaid eu ewthaneiddio ar ffermydd.

“Byddai’r sefyllfa’n debyg gyda moch hefyd, a byddai yna aflonyddwch mawr i’r gadwyn gyflenwi bwyd, felly roedden ni’n gweld bod angen i ni weithredu.”

“Degau o filiynau”

Ychwanegodd George Eustice sylwadau am faint o arian y byddan nhw’n ei gyfrannu i gwmni CF Fertilisers.

“Mae cyfreithwyr yn dal i weithio ar y manylion terfynol hynny,” meddai.

“Bydd yn filiynau lawer, yn ddegau o filiynau o bosib, ond bydd yn cyfrannu at y costau sefydlog hynny.”

“Bydd yn rhywbeth dros dro… ar ddiwedd y dydd mae angen i’r farchnad addasu.”

Roedd o hefyd yn pwysleisio bod cynnydd ym mhrisiau carbon deuocsid ddim yn mynd i gael “effaith anferth ar brisiau bwyd” achos ei fod ond yn “gyfran fechan” o gyfanswm y costau i gynhyrchwyr bwyd a diod.