Rhaid i’r Deyrnas Unedig osod targedau i wyrdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt erbyn 2030, yn ôl asiantaethau natur statudol.

Mewn adroddiad newydd, mae’r sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw am fwy o weithredu ar natur ar draws cymdeithas.

Mae’r awgrymiadau’n cynnwys amddiffyn tir i ddod â rhywogaethau coll yn ôl, ynghyd â buddsoddi mewn prosiectau fel adfer mawndir i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio nad yw’r DU ar y trywydd iawn i wyrdroi ffawd natur erbyn 2030, ond nid yw’n “rhy hwyr” i wyrdroi’r dirywiad. Mae’r arbenigwyr wedi dweud bod y DU yn un o’r gwledydd mwyaf disbyddedig o ran natur ar y ddaear.

“Positif”

Mae’r sefydliadau – sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England, NatureScot, Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon a Chydbwyllgor Cadwraeth Natur – yn amlinellu sut y gall y DU fod yn “bositif” o ran natur – gan wyrdroi’r dirywiad erbyn 2030.

Bydd gweithredu gan lywodraethau cenedlaethol a lleol, busnesau, tirfeddianwyr ac eraill yn helpu’r DU i gyflawni addewidion rhyngwladol ar natur ac yn helpu i gyflawni’r ymrwymiad i amddiffyn 30% o dir a moroedd erbyn 2030, meddai’r sefydliadau.

Bydd gwaith o’r fath yn sicrhau buddion i’r economi, ac i iechyd a lles pobl – fel y gwelwyd yn ystod pandemig Covid-19, pan fu llawer o bobl yn gwneud mwy o ddefnydd o natur a mannau gwyrdd. Bydd oedi cyn gweithredu yn costio mwy ac yn cynyddu risgiau amgylcheddol, yn ôl yr adroddiad.

Newid hinsawdd 

Dywedodd yr adroddiad ei bod yn bwysig gweithredu ar newid yn yr hinsawdd a natur ar y cyd, megis adfer mawndiroedd a phlannu coed brodorol i storio carbon a darparu cynefin bywyd gwyllt.

Rhaid bod mwy o ffynonellau cyllid ar gyfer natur, gan gynnwys buddsoddiad preifat, a symud i ffwrdd o gymorthdaliadau niweidiol a chynnig taliadau am gefnogi natur yn lle.

Rhaid atal difodiant a dirywiad mewn rhywogaethau, dylid ailgyflwyno bywyd gwyllt coll, ac mae angen mynd i’r afael â llygredd aer a dŵr.

Dylid rheoli pysgodfeydd yn effeithiol. Dylai’r 71% o’r DU sy’n cael ei ffermio weld newidiadau i gymorthdaliadau a chymhellion ar gyfer ffermio gwerth natur uchel. Dylid gwneud cadwyni ffermio a chyflenwi yn fwy effeithlon i leihau’r galw ar weddill y byd.

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Adfer natur yw ein prif amddiffyniad yn erbyn newid hinsawdd, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos uchelgais pedair gwlad y DU i wneud yn union hynny.

“Rydym yn gwybod y gall newid go iawn ddigwydd pan fydd llywodraethau, grwpiau ac unigolion yn gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn ein hinsawdd a’n byd naturiol.”