Mae’r Ysgrifennydd Economi wedi dweud y bydd cymorth gan Lywodraeth Cymru yn helpu busnes yng Nghaerffili.

Dywed Vaughan Gething y bydd yn diogelu gweithrediadau Hawker Siddeley Switchgear, sy’n cynhyrchu switsys trydan, at y dyfodol drwy adleoli a diogelu swyddi.

Bydd y cwmni’n defnyddio £500,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i symud o’u safle presennol ym Mhontllanfraith i hen ffatri creu seddi mewnol British Airways yn y Coed Duon gerllaw.

Bydd cyfanswm o 196 o swyddi’n cael eu diogelu yn sgil y cyllid hwn, ac ni fydd y gwaith yn tarfu bron dim ar y gweithlu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r cwmni yn “gyflogwr pwysig yn y rhanbarth”, yn ôl Vaughan Gething.

‘Cyflogwr pwysig’

“Mae Hawker Siddeley Switchgear yn gwmni sydd wedi hen sefydlu ac sydd wedi bod yn rhan o’r gymuned leol ers 80 mlynedd,” meddai Vaughan Gething.

“Maent yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth, ac rwy’ wrth fy modd y bydd ein cefnogaeth yn eu helpu i ddiogelu eu gweithrediadau at y dyfodol ar adeg pan maen nhw’n rhagweld twf busnes sylweddol.

“Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru, ac wrth i ni adfer ar ôl pandemig y coronafeirws, un o’m blaenoriaethau yw rhoi hwb i economi Cymru, gan sicrhau ei bod yn sbarduno twf cynaliadwy a gwyrdd.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn brawf pellach o hynny, ac mae disgwyl i Hawker Siddeley Switchgear chwarae rhan yn y gwaith o gyflwyno seilwaith newydd a fydd yn cymryd lle seilwaith sy’n heneiddio yn y Deyrnas Unedig, a sicrhau bod y rhwydwaith yn addas ar gyfer cerbydau trydan newydd dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol dros ben, ond bydd y cyhoeddiad hwn yn diogelu swyddi o safon sy’n cael eu colli o ranbarth de-ddwyrain Cymru ac yn rhoi hwb hanfodol i’r economi leol.”