Mae Plaid Cymru yn galw am gyflwyno wythnos pedwar diwrnod, gan ddweud bod angen cynyddu amser rhydd gweithwyr.

Mae Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, yn ofni y bydd diswyddiadau torfol wrth i weithleoedd droi fwyfwy at dechnoleg.

Ond mae’n dweud y byddai cyflwyno wythnos pedwar diwrnod yn gallu “diogelu economi Cymru yn y dyfodol”.

Yn ogystal â manteision economaidd, gallai wythnos waith pedwar diwrnod wella lles gweithwyr, lleihau’r ôl troed carbon oherwydd llai o gymudwyr, a byddai’n creu’r cyfleoedd i ryddhau pobol i wirfoddoli a chyfrannu at eu cymunedau mewn gwahanol ffyrdd, meddai.

Ychwanega y byddai’r diwrnod ychwanegol yn helpu i gydbwyso baich gwaith di-dâl – fel gofalu a chadw tŷ – gan ddweud bod y gwaith hwn yn aml yn disgyn ar fenywod.

Heddiw (dydd Mercher, Medi 22), bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd, gan alw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

‘Taflu goleuni ar anghydraddoldebau’

“Mae Covid-19 wedi newid ein harferion gwaith ac wedi taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, yn enwedig bod baich gwaith di-dâl yn disgyn fwyaf ar fenywod,” meddai Luke Fletcher.

“Gallai rhyddhau diwrnod ychwanegol nad yw’n cael ei dreulio’n gweithio helpu i wella’r cydbwysedd, ac mae hefyd yn creu cyfleoedd i bobol ymgysylltu mwy yn eu cymunedau lleol.

“Efallai’r un mor bwysig yw y byddai’n lleihau ein hôl troed carbon ar unwaith, gan i ni dreulio un diwrnod yn llai yn cymudo i’r gwaith.

“Gallai wythnos waith pedwar diwrnod ddiogelu economi Cymru yn y dyfodol, cyn belled â bod yr enillion cynhyrchiant o ddatblygiadau mewn awtomeiddio, a’r amser a arbedir gan weithwyr, yn cael ei rannu ar draws ein cymdeithas.”