Mae Mark Drakeford yn dweud y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig neilltuo digon o brofion PCR ar gyfer teithwyr sy’n dychwelyd adref o dramor.

Daw sylwadau prif weinidog Cymru wrth iddo feirniadu agwedd Boris Johnson a’i lywodraeth at deithio rhyngwladol yn ystod y pandemig.

“Mae agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at deithio rhyngwladol yn ystod y pandemig wedi bod ymhlith rhannau mwyaf anhrefnus ei hymateb,” meddai ar lawr y Siambr heddiw (dydd Mawrth, Medi 21).

“Yn wir, mae’n anodd iawn dilyn eu meddylfryd yn y maes hwn.

“Rydym ni, fel Llywodraeth Cymru ac eraill, wedi annog yn gyson ddull mwy gofalus o amddiffyn ffiniau’r Deyrnas Unedig yn erbyn ail-fewnforio y coronafeirws i’r Deyrnas Unedig ac, yn arbennig, fewnforio amrywiolion newydd a allai fod yn ymddangos mewn rhannau eraill o’r byd.

“Heb brawf PCR, mae’n anodd iawn gweld sut y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gwneud hynny.

“Felly, mae gennym ni ein penderfyniad ein hunain i’w wneud.”

‘Penderfyniad anodd’

Mae disgwyl i drefn deithio newydd ddod i rym yn Lloegr ym mis Hydref.

Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi penderfynu a ddylid dilyn eu hesiampl, wrth i Mark Drakeford ddweud bod ei weinidogion yn wynebu “penderfyniad anodd”.

“Mae’n benderfyniad anodd iawn mewn ystyr ymarferol oherwydd bod cynifer o deithwyr o Gymru yn dychwelyd i Gymru trwy borthladd neu faes awyr yn Lloegr,” meddai.

Roedd dod â’r angen am ddau brawf PCR i ben yn “gam i ffwrdd” o ddyletswydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i iechyd pobol, meddai.

Fe ddywedodd yn ystod sesiwn holi’r prif weinidog mai’r “ateb go iawn oedd cadw profion PCR diwrnod 2 ledled y Deyrnas Unedig” a bod y “methiant i wneud hynny, rwy’n credu mewn gwirionedd, yn gam i ffwrdd o’r ddyletswydd sydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu iechyd pobol yn y wlad hon”.

Dywedodd fod y profion yn caniatáu i wyddonwyr ganfod amrywiolion newydd o’r feirws.

Disgwyl penderfyniad yn fuan

O dan y newidiadau, bydd y system deithio ryngwladol ar gyfer Lloegr yn cael ei symleiddio gydag un rhestr goch, gyda’r rhestr oren o wledydd yn cael ei dileu.

O Hydref 4, fydd dim rhaid i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn gymryd prawf cyn gadael, na chael prawf diwrnod wyth.

Mae Cymru wedi cytuno i dynnu wyth gwlad oddi ar y rhestr goch, gan gynnwys Twrci a’r Aifft.

Dywedodd Mark Drakeford, wrth ymateb i gwestiwn gan Hefin David, yr Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Caerffili, y byddai gweinidogion yn dod i benderfyniad “yn fuan”.

“Dylai’r ateb gwirioneddol fod wedi bod i gadw’r diwrnod dau brawf PCR ar draws y Deyrnas Unedig, a’r methiant i wneud hynny… rwy’n credu bod hynny’n gam i ffwrdd o’r ddyletswydd sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i iechyd pobol yn y wlad hon.”