Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cael cais ffurfiol gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am gefnogaeth gan y fyddin.

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog, esboniodd prif weinidog Cymru ar lawr y Siambr fod y cais am gymorth gan y Gwasanaeth Ambiwlans “yn gyntaf oll yn dod i Lywodraeth Cymru”, a bod “y cais hwnnw bellach wedi’i dderbyn”.

”Os yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r cais hwnnw, yna caiff ei anfon ymlaen i’r Weinyddiaeth Amddiffyn i benderfynu a ddylid cymeradwyo darparu cefnogaeth filwrol i’r Gwasanaeth Ambiwlans,” meddai.

Ychwanegodd mai “dyna fydd y cam y byddwn ni ynddo nesaf – gan sicrhau ein bod yn gwneud y cais gorau posibl i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gan obeithio y byddant yn gallu cynnig yr help y maent wedi’i gynnig i ni i raddau helaeth iawn yn ystod y pandemig”.

Deffro i’r argyfwng

Daeth y cadarnhad wrth ymateb i gwestiwn gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rwy’n falch, ac rwy’n siŵr y bydd pobol ledled Cymru yn falch, fod y prif weinidog a’i gydweithwyr wedi agor eu llygaid o’r diwedd ac wedi sylweddoli bod ein gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng ac wedi ymestyn yn hurt o denau,” meddai Andrew RT Davies.

“Bydd galw ar y Fyddin yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar ein staff ambiwlans yn ystod y cyfnod heriol hwn, ond mae’n drueni na chafodd Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur y bêl i rolio’n gynt.

“Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru [Simon Hart] at yr Ysgrifennydd Iechyd fwy nag wythnos yn ôl yn cynnig cymorth y Fyddin, ond dim ond nawr mae gweinidogion yn dechrau gweithredu.

“Fodd bynnag, rwy’n falch bod yr olwynion yn troi bellach, gan fy mod yn dechrau meddwl bod Llywodraeth Cymru yn gwadu faint o bwysau sydd ar y gwasanaeth ambiwlans.”

Mae’r blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan bod y sefyllfa’n argyfwng, gan amlinellu cynllun i wella amseroedd ymateb ambiwlans, cynyddu nifer y gwlâu mewn ysbytai, yn ogystal â sicrhau apwyntiadau wyneb yn wyneb i gleifion.

Yr Alban

Yn yr Alban, mae’r llywodraeth wedi gofyn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn am gymorth milwrol i wasanaeth ambiwlans y wlad.

Dywed Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fod gwasanaethau iechyd yn delio â’r cyfuniad mwyaf heriol o amgylchiadau yn eu hanes oherwydd pandemig Covid-19.

Bydd tua 200 o filwyr o Brydain yn cael eu defnyddio i gefnogi gweithwyr ambiwlans yr Alban wedi i glaf farw ar ôl aros 40 awr am barafeddygon.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn y Senedd yfory (dydd Mercher, Medi 22), gan edrych ar y trafferthion sy’n wynebu’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.