Mae Arfon Jones, cyn Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, wedi canu clodydd y cyffur naloxone, gan ddweud wrth golwg360 ei fod yn “achub bywydau”.
Daw ei sylwadau yn dilyn y cyhoeddiad fod yr actor Martin Compston, sy’n adnabyddus am ei rôl yn y cyfresi teledu Line of Duty a Vigil ac yn un arall sy’n cefnogi’r ymgyrch i wneud mwy o ddefnydd o naloxone, am leisio hysbyseb yr ymgyrch yn yr Alban.
Bydd yn cael ei glywed yn annog pobol i archebu naloxone mewn hysbysebion newydd.
Yn yr hysbysebion, mae’n dweud: “Fyddech chi’n adnabod arwyddion gorddos cyffuriau? Ddim yn ymateb, chwyrnu, gwefusau glas, i enwi dim ond rhai.”
Roedd opioidau, fel heroin a methadon, yn gysylltiedig ag 89% o’r 1,339 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn yr Alban yn 2020.
Y cyffur
Wedi’i ddatblygu yn y 1960au yn yr Unol Daleithiau, mae naloxone wedi cael ei ddefnyddio i drin gorddos heroin a chyffuriau opioid eraill ers mwy na dau ddegawd.
Rhwng 1996 a 2014, fe wnaeth wrthdroi gorddos opioid mewn mwy na 26,000 o achosion yn yr Unol Daleithiau, yn ôl y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau.
Cafodd cynllun peilot i ddefnyddio chwistrell trwyn i atal marwolaethau gorddos heroin ei gyflwyno yng ngogledd Cymru ym mis Mai tra bod Arfon Jones yn Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd bywydau dau berson oedd wedi dioddef gorddos eu hachub yn ystod y cynllun peilot.
Mae’r cynllun bellach wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ledled Cymru.
Achub bywydau’n “llwyddiant ysgubol”
“Mae o’n achub bywydau,” meddai Arfon Jones wrth golwg360.
“Mae hi’n bwysig bod pobol yn gwybod sut i ymateb pan fydd pobol yn cael gorddos o heroin.
“Be’ rydan ni wedi bod yn trio ei wneud yng Nghymru – ac rydan ni wedi bod yn eithaf llwyddiannus – ydi bod y gwasanaethau sy’n delio efo’r cyffuriau yma yn rowlio fo allan i bobol sy’n byw efo pobol sy’n cymryd heroin ac ati, a’u hyfforddi nhw.
“Ac mae o’n dangos yn y ffigurau, a dweud y gwir, oherwydd yn yr Alban ac yn Lloegr, mae’r ffigurau o bobol sy’n marw o orddos opioid yn cynyddu.
“Yng Nghymru, rydan ni wedi gallu ei droi o rownd ychydig ac mae’r ffigurau wedi lleihau rywfaint.
“Ond does yno ddim lle i fod yn hunanfodlon, mae’n rhaid i ni gario ymlaen.
“Un o’r pethau olaf wnes i gyda Heddlu Gogledd Cymru oedd rhedeg peilot a hyfforddi dwsin o blismyn i gario naloxone ac, yn ystod y peilot hwnnw, fe ddaru nhw achub dau fywyd.
“I fi, mae hynna yn llwyddiant ysgubol.
“Dw i’m yn gwybod am yr un cyffur arall sy’n gweithio mor effeithiol â hyn fel triniaeth i orddos opioid.”