Mae pum nyrs gymunedol yn Sir Gaerfyrddin am godi arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd trwy blymio o’r awyr.
Bydd y tîm – sef Carly Bailey, Anwen Thomas, Tina Delaney, Mel Clarke ac Alice Morgan – yn awyrblymio fel rhan o Ddiwrnod Naid Bwrdd Iechyd Hywel Dda eleni.
Drwy gymryd rhan yn y digwyddiad arbennig hwn, maen nhw’n gobeithio codi £2,500 ar gyfer y gwasanaeth nyrsio cymunedol.
‘Rhoi yn ôl’
Bydd y pum nyrs yn mentro i’r uchelfannau o Faes Awyr Abertawe ddydd Sadwrn yma (Medi 25).
“Rwy’n gweithio fel nyrs gymunedol yn Llandysul,” meddai Tina Delaney.
“Rwy’n gwneud y naid i roi yn ôl i’r bwrdd iechyd am y cyfleoedd anhygoel y maen nhw wedi’u rhoi i mi trwy gydol fy ngyrfa.
“Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i’m cefnogi gan fy mod ar fin cychwyn ar daith newydd yn cwblhau gradd nyrsio ardal.
“Bydd codi arian ar gyfer y gwasanaeth yn ein galluogi i brynu offer i barhau i drin mwy o gleifion gartref a lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty.”
‘Nerfus’
“Ar ôl deg mlynedd anhygoel o weithio i’r Gwasanaeth Iechyd, pa ffordd well o dalu’n ôl a chodi arian ar gyfer rywbeth mor bwysig ym mywydau llawer o bobl,” meddai Alice Morgan.
“Rwy’n gweithio yn y tîm gofal parhaus o dan Feddygfa San Pedr, Caerfyrddin, yn cefnogi a gofalu am gleifion ag anghenion cymhleth yn eu cartrefi eu hunain.
“Rwy’n gyffrous i awyrblymio ond yn nerfus ar yr un pryd!”
‘Diolch’
Mae Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, yn dymuno’r gorau i’r nyrsys wrth iddyn nhw baratoi am yr her.
“Diolch a phob lwc i Carly, Anwen, Tina, Mel ac Alice,” meddai.
“Mae’r rhoddion a dderbyniwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.”
Mae modd darganfod mwy am waith yr elusen a chodi arian ar eu gwefan.