Mae’r Prifardd R O Williams, a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1996, wedi marw yn 84 oed.
Er mai un o Eifionydd oedd Robert Owen Williams yn wreiddiol, bu’n byw yn y Bala ers y 60au gan weithio yn Ysgol y Berwyn yn dysgu plant ag anghenion dysgu.
Cafodd R O Williams ei eni yn 1937, ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd y Ffôr ac yn Ysgol Ramadeg Pwllheli.
Meistrolodd y gynghanedd dan arweiniad Alan Llwyd, ac yn ogystal â chipio’r Gadair yn Eisteddfod Bro Dinefwr yn 1996, enillodd sawl tro ar gystadleuaeth yr englyn yn y Genedlaethol.
‘Grisiau’ oedd testun yr awdl yn 1996, ac awdl i Anne Frank oedd gan R O Williams.
Gwnaed y Gadair gan y Parchedig T. Alwyn Williams, a fu farw oriau’n unig ar ôl ei chwblhau, gan ddefnyddio’r derw oedd yn weddill o Bont Llandeilo a gafodd ei golchi ymaith yn llifogydd mawr 1845.
Bu R O Williams yn Lerpwl yn dysgu am gyfnod, a dyna pam ei fod yn gefnogwr Everton brwd ar hyd ei fywyd, meddai ei fab-yng-nghyfraith, y Prifardd Tudur Dylan Jones, wrth golwg360.
Am flynyddoedd, bu’n dal tocyn tymor i fynd i wylio Everton yn chwarae.
Aeth i’r Bala yn 1966, gan ddysgu plant ag anghenion dysgu yn Ysgol y Berwyn, a bu’n bennaeth yr adran nes ei ymddeoliad.
Tra’r oedd Alan Llwyd yn gweithio yn siop lyfrau Awen Meirion yn y Bala, dechreuodd ddosbarth cynganeddu ac yno y dysgodd R O Williams y grefft.
Nid R O Williams oedd yr unig brifardd i feithrin y gynghanedd yn nosbarthiadau Alan Llwyd yn y Bala, gan fod Elwyn Edwards wedi mynd yn ei flaen i ennill y Gadair yn hefyd.
Mae’n gadael ei wraig, Beti, a dau o blant, Enid a Merfyn.