Mae’r cyflwynydd a chynhyrchydd radio, Magi Dodd, wedi marw yn 44 oed.

Daeth hi’n llais cyfarwydd ar raglenni C2 Radio Cymru, ac yn fwy diweddar bu’n cynhyrchu rhaglenni radio ac yn cyflwyno Cwis Pop Radio Cymru.

Roedd hi’n enedigol o Bontypridd, a mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd y cyflwynydd Huw Stephens, y bydd colled enfawr ar ei hôl.

“Roedd Magi yn gydweithwraig anhygoel, roedd hi’n ddoniol, roedd hi’n garedig, roedd hi’n greadigol, ac yn ddeallus tu hwnt,” meddai Huw Stephens.

“Roedd hi’n dod â hiwmor ac arbenigedd i bopeth oedd hi’n ei wneud, fel cyflwynydd ar yr awyr ac fel cynhyrchydd.

“Roedd hi’n dod â hwyl a phroffesiynoldeb a syniadau i bopeth roedd hi’n ei wneud.

“Roedd hi’n gallu dyfynnu barddoniaeth y beirdd Cymreig gorau a lyrics Girls Aloud a Beyonce yn yr un anadl, ac felly bydd yna golled enfawr ar ei hôl hi.

“Fe wnaeth hi adael marc enfawr ar y byd cerddoriaeth Cymraeg, ac ar y byd darlledu Cymraeg.”

“Llawn egni”

Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru, fod “golau wedi diffodd yn nhîm Radio Cymru heddiw”.

“Roedd Magi yn llawn egni, brwdfrydedd, syniadau creadigol ac yn rhan mor bwysig o’r tîm ers dros 20 mlynedd. Mae’n ergyd drom i bawb oedd yn ei hadnabod a bydd bwlch anferth ar ei hôl,” meddai.

“Mae ein meddyliau gyda ei phartner, Aled ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Magi.”

“Ergyd drom”

Mewn datganiad i BBC Cymru Fyw, dywedodd cyfarwyddwr cynnwys a gwasanaethau BBC Cymru, Rhuanedd Richards, fod yna “barch mawr tuag ati fel darlledwraig i ddechrau ac yna fel cynhyrchydd”.

“Mi wnes i fynychu yr un ysgol uwchradd a Magi ym Mhontypridd ac roedd hi wastad yn cael ei hadnabod fel person caredig, egnïol a chreadigol oedd yn frwdfrydig am ei gwaith ac yn angerddol dros y Gymraeg,” meddai Rhuanedd Richards.

“Mae colli Magi yn ergyd drom i bob un ohonom, ond yn enwedig i’w ffrindiau, i’w chydweithwyr yn Radio Cymru ac wrth gwrs, yn bennaf oll, i’w theulu.”