Mae cyn-Arweinydd Catalwnia wedi cael ei arestio yn yr Eidal, yn ôl ei gyfreithiwr.
Arweiniodd Carles Puigdemont ymgais aflwyddiannus i sefydlu Catalwnia fel gwlad yn annibynnol o Sbaen bedair blynedd yn ôl.
Fe wnaeth ef a nifer o’i gydweithwyr ffoi i Wlad Belg ym mis Hydref 2017, gan ofni cael eu harestio ar ôl cynnal refferendwm annibyniaeth i Gatalwnia.
Dywedodd llysoedd a Llywodraeth Sbaen fod y refferendwm hwn yn anghyfreithlon, a’u bod eisiau arestio Carles Puigdemont.
Carles yn y ddalfa
Ysgrifennodd y cyfreithiwr Gonzalo Boye ar Twitter fod Carles Puigdemont yn cael ei gadw yn y ddalfa o dan warant arestio Ewropeaidd a gyhoeddwyd gan Sbaen yn 2019.
Collodd Carles Puigdemont, sydd bellach â sedd yn Senedd Ewrop, ei imiwnedd yn gynharach eleni.
Mae’r cyfryngau yn Sardinia wedi adrodd ei fod wedi bwriadu mynychu digwyddiad yn Alghero ddydd Sul (26 Medi), a’i fod wedi ei wahodd yno gan grŵp sydd o blaid annibyniaeth i Sardinia.
Dywedodd swyddfa Carles Puigdemont mewn datganiad ei fod wedi teithio i Alghero o Frwsel i fynychu gŵyl werin.