Ar drothwy cynhadledd ei blaid yn Brighton y penwythnos hwn, mae Prif Weinidog Cymru wedi cynnig gwersi i’r Blaid Lafur ar sut i sicrhau llwyddiant ledled Prydain.

Heddiw (Medi 24) mae Mark Drakeford a Chadeirydd y Blaid Lafur, Anneliese Dodds, wedi cyhoeddi adroddiad ar ffurf cyfres o draethodau ar gyfer cynrychiolwyr Llafur ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad yn edrych ar wersi sydd i’w dysgu ar lefel llywodraeth leol, ranbarthol a chenedlaethol gyda’r nod o ddangos “y newid beiddgar, uchelgeisiol a radical” y mae Llafur, sydd eisoes mewn grym yng Nghymru, yn gallu ei gyflawni ar lefel Brydeinig.

Ar drothwy cynhadledd y blaid yn Brighton dros y penwythnos, mae’r adroddiad Yn Gryfach Gyda’n Gilydd: Mae Llafur yn Gweithio yn cwmpasu enghreifftiau o waith ymarferol ac uchelgeisiol y blaid gyda’r nod o adeiladu “plaid decach, wyrddach a diogel” i ddyfodol y wlad.

Mewn rhagair i’r adroddiad, dywed Mark Drakeford: “Pan fydd plaid wleidyddol wedi bod allan o rym, ar lefel y DU, am gyfnod estynedig, mae’r chwilio am enaid yn amlwg ac yn angenrheidiol.

“Mae’r casgliad hwn o draethodau byrion yn mynd i’r afael â’r un set o faterion o gyfeiriad gwahanol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y diffygion, mae’n edrych ar lwyddiannau niferus Llafur ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.”

Platfform Cymreig

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Keir Starmer draethawd sy’n amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y Blaid, sydd wedi cael ei feriniadu am y diffyg sôn am Gymru.

“Mae amseru a’r sylw mae Llafur Cymru yn rhoi i hyn yn syndod, gan ystyried Keir Starmer rhai diwrnodau nôl, ble prin iawn oedd y sylw i Gymru,” meddai Dr Huw Williams wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad Mark Drakeford ac Anneliese Dodds.

“Mae’r ffaith fod Mark Drakeford yn un o’r bobl sy’n rhan o lunio’r adroddiad hwn yn dangos bod Llafur Cymru am roi agwedd ar y naratif yn dilyn traethawd Keir Starmer,” meddai Huw Williams.

“Mae Llafur Cymru efallai wedi ei hymylu, ac mae hyn yn gyfle iddyn nhw roi platfform i’r Blaid Gymreig ar lwyfan Brydeinig…

“Y peth diddorol yw gweld Llafur Cymru yn rhoi cymaint o bwyslais ar Mark Drakeford, sydd â mwy o wleidydiaeth asgell chwith, sosialaidd – sydd yn wahanol i Starmer.”

Traethawd Starmer

Mae Dr Huw Williams yn gweld mai ceisio dilyn trywydd Llafur Newydd yw nod Keir Starmer.

“Maen [yr adroddiadau] yn bethau eithaf swmpus, pobl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth a phobl polisi mae Llafur yn anelu ato fan hyn,” meddai.

“Mae Starmer yn ceisio ennill nôl y Dosbarth canol, y ‘Mondeo man fel petai.”

Defnyddiwyd y term ‘Mondeo Man i ddisgrifio’r pobl oedd yn cefnogi Llafur Newydd dan Tony Blair.

“Mae’r math yma o adroddiadau gan y blaid cyn ei chynhadledd yn edrych ar ddymuniad Starmer i fynd ar y trywydd ‘Blair-aidd’,” meddai Huw Williams, “gan wrthod y syniad mai gwleidyddiaeth asgell chwith, radical, gan ddod nôl at y syniad o Lafur Newydd.”

Rhagair Mark Drakeford

Dyma flas o ragair Mark Drakeford i Yn Gryfach Gyda’n Gilydd: Mae Llafur yn Gweithio:

“Erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, bydd y Torïaid wedi bod yn Downing Street am fwy o amser na llywodraethau Blair-Brown yn 1997-2010, a oedd yn ei dro yn adwaith i 17 mlynedd heb eu torri o reolaeth gan y Ceidwadwyr.

“Mae’r demtasiwn i edrych ar y byd drwy delesgop San Steffan a gofyn, dro ar ôl tro, ‘beth aeth o’i le?’ yn gwbl ddealladwy.

“Mae’r casgliad hwn o draethodau byrion yn mynd i’r afael â’r un set o faterion o gyfeiriad gwahanol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y diffygion, mae’n edrych ar lwyddiannau niferus Llafur ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.

“Mae’r llwyddiannau hyn yn bwysig am lu o resymau. Ynddynt eu hunain maent yn dangos y gwahaniaeth hanfodol y gall Llafur ei wneud – ac mae Llafur yn ei wneud – pan fyddant mewn grym.”