Mae Keir Starmer wedi cefnogi penderfyniad i lacio rheolau cyffuriau dosbarth A yn yr Alban.
Fe wnaeth Dorothy Bain, Arglwydd Adfocad yr Alban, gyhoeddi ddydd Mercher (22 Medi), y byddai’r rheiny sy’n cael eu dal gyda chyffuriau dosbarth A – fel heroin neu gocên – at eu defnydd personol, ond yn derbyn rhybudd yn hytrach na chael eu herlyn.
Byddai’r fenter yn galluogi’r heddlu i ystyried a yw unigolyn yn bwriadu gwneud defnydd personol o gyffuriau, a byddai pawb sy’n gwerthu cyffuriau i eraill yn parhau i wynebu cyhuddiad troseddol.
Mae’r gyfraith hynny eisoes yn berthnasol i gyffuriau dosbarth B a C.
Roedd Plaid Lafur yr Alban eisoes wedi cefnogi penderfyniad Dorothy Bain ddydd Mercher.
Ymateb Keir Starmer
Wrth drafod y newid yn y gyfraith, fe wnaeth Keir Starmer ddweud bod y penderfyniad “mwy na thebyg y peth iawn i’w wneud.”
“Nid yw’n anarferol mewn unrhyw system gyfreithiol i beidio erlyn y rhai sy’n cael eu dal â symiau bach o ganabis,” meddai.
“Dydw i ddim yn credu y byddai llawer o bobl yn dadlau nad yw’r disgresiwn hwnnw’n synhwyrol.
“Yr un peth yn yr Alban – mae byd o wahaniaeth rhwng y fenter honno a dweud eich bod chi’n credu y dylid dileu deddfau cyffuriau.
“Byddwn i wastad yn dweud ‘na’ i hynny.”
Sefyllfa ddybryd
Mae’r Alban yn anelu at leihau marwolaethau sy’n ymwneud â chyffuriau ar ôl iddo gyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2020, pan gafodd 1,339 marwolaeth ei chofnodi.
Roedd Angela Constance, Gweinidog yr Alban sy’n gyfrifol am bolisi cyffuriau, yn disgrifio’r newid fel “defnydd craff o’r gyfraith.”
Fe bwysleisiodd bod y newid ond yn berthnasol i’r rheiny sy’n bwriadu gwneud defnydd personol o gyffuriau, ac y bydd cyflenwyr yn parhau i gael eu cosbi.
Dywedodd hefyd bod pob plaid yn Holyrood ac eithrio’r Ceidwadwyr wedi cymeradwyo’r newid.
Ymateb y Ceidwadwyr
Fe wnaeth Jamie Greene, llefarydd y Ceidwadwyr ar Gyfiawnder, ddweud y bydd “pobol yn cael yr un gosb am gario cyffuriau dosbarth A a fyddan nhw am biso yn gyhoeddus.”
Roedd yn mynnu y dylai’r Llywodraeth “ailfeddwl y strategaeth beryglus hon, sy’n mynd i wanhau pa mor ddifrifol mae cymdeithas yn trin y cyffuriau mwyaf marwol.”
Roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi gwrthwynebu sylwadau Keir Starmer gan ddweud bod Llafur yn “wan ar drosedd a beth sy’n achosi trosedd.”