Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cyflwyno canolfannau ailgylchu dros dro fyddai yn symud o le i le yn y brifddinas.
Bu i ganolfan ailgylchu gau yn y Rhath yn 2018 ac mae’r cyngor wedi ei chael yn anodd dod o hyd i safle addas.
Mae £3miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer adeiladu canolfan ailgylchu newydd yn ei le, ond mae’r arian wedi bod yn segur.
Ac am nad oes un safle addas wedi dod i’r fei, mae’r cyngor wedi edrych ar y posibilrwydd o gael canolfannau ailgylchu symudol, fyddai yn cael eu codi dros dro mewn gwahanol ardaloedd o’r brifddinas.
Yn trafod ailgylchu a sbwriel, dywedodd y Cynghorydd Michael Michael sy’n gyfrifol am lendid y strydoedd, ailgylchu a’r amgylchedd:
“Pan wnes i gychwyn ymwneud efo hyn, roedd ailgylchu ar bedwar y cant ac roedd ganddo ni dip sbwirel, ac roedd popeth jyst yn mynd i’r tip.
“Mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr ac rydw i’n credu mai parhau i newid fydd pethau. Rydw i yn credu bod y syniad yma fod ganddo chi un lle anferthol lle mae popeth yn cael ei daflu, yn newid, a ddyle ein bod ni mewn safle i fynd gyda’r newid yma.
“Rydw i yn credu bod gwasanaethau pop-yp sy’n mynd at y cwsmer ar gynnydd, ac am ddod yn amlycach.”
Bydd y cynigion ar gyfer cyflwyno canolfannau ailgylchu dros dro yn cael eu cynnwys mewn fersiwn drafft o strategaeth ailgylchu Cyngor Caerdydd, sydd i’w gyhoeddi ym mis Tachwedd.