Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu eu cyfreithiau newydd ynghylch troi allan ‘heb fai’, ac i “roi’r gorau i guddio y tu ôl i reoliadau amheus y coronafeirws”.

Daw sylwadau Mabon ap Gwynfor, llefarydd Tai a Chynllunio Plaid Cymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi estyniad i ddeddfwriaeth frys sy’n rhoi amddiffyniad i denantiaid preifat rhag cael eu troi allan ac sy’n rhan o fesurau coronafeirws brys.

“Effaith y newidiadau hyn fydd ymestyn, am dri mis arall, y cyfnod pryd y bydd angen i landlordiaid, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, roi mwy o rybudd i denantiaid cyn dechrau achos meddiant yn y llysoedd,” meddai.

“Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd yr amddiffyniadau a roddi ar waith i atal tenantiaid rhag cael eu troi allan yn cael eu hymestyn tan ddiwedd y flwyddyn.

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am fwy o amddiffyniad i denantiaid.

“Ond rwy’n perydu’n ddifrifol bod yr amddiffyniadau hyn yn rhai tymor byr ac yn cael eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth amddiffyn iechyd amheus.

“Yn hytrach na chuddio y tu ôl i’r coronafeirws, dylent weithredu’r Ddeddf Rhentu newydd a gafodd ei deddfu bum mlynedd yn ôl.”

Mae’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cynnwys cymal fydd yn ymestyn unrhyw ddadfeddiannu heb fai o ddau fis i chwe mis.

Mae Mabon ap Gwynfor yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am weithredu hyn mor araf.

“Cafodd y gyfraith hon ei phasio bum mlynedd yn ôl, ac er ei bod wedi’i diwygio, nid yw byrdwn y gyfraith wedi’i weithredu o hyd,” meddai.

“Rhaid i hyn fod yn record. Mae angen y sicrwydd hwnnw ar denantiaid, er mwyn iddynt wybod na ellir eu taflu allan o’u cartref heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain.

“Nid oes rheswm pam na ddylid ei gychwyn ar unwaith.

“Mae gan y Llywodraeth y pwerau eisoes i’w gorfodi, felly mae’n ddirgelwch pam eu bod yn parhau i ohirio ei chychwyn ac yn hytrach yn dewis rhoi hawliau estynedig i denantiaid yn seiliedig ar sail iechyd y cyhoedd.”