Mae un o gynghorau’r de wedi penderfynu peidio gosod gwaharddiad llwyr ar fegera, er bod 78% o drigolion wedi cefnogi’r cynlluniau yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.

Cafodd yr ymgynghoriad gan Gyngor Dinas Casnewydd 108 o ymatebion, ond mae cynghorwyr wedi dadlau nad yw’r nifer hwn yn gynrychiolaeth ddigon da o farn pobol leol.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a fyddai’n well ganddynt gael gwared ar y cyfyngiadau presennol ar fegera a chael gwaharddiad cyffredinol.

Dywedodd un preswylydd a ymatebodd i’r cwestiwn: “Mae angen gwahardd begera yn llwyr.

“Mae gennym elusennau i helpu’r rhai mewn angen a system fudd-daliadau.

“Nid oes angen i unrhyw un gardota yn ein dinas.

“Mae’n annymunol.”

Ond dywedodd un preswylydd, oedd yn gwrthwynebu’r gwaharddiad: “Nid yw pobol sy’n eistedd ac yn gofyn yn gwrtais am newid sbâr, i ffwrdd o dyllau wal, yn fygythiol o gwbl ac ni ddylen nhw gael eu gwahardd er mwyn gwneud cynghorwyr Ceidwadol lleol yn hapus.”

“Problem fawr”

Galwodd y Cynghorydd Matthew Evans, arweinydd grŵp Ceidwadol y cyngor, am waharddiad cyffredinol cyn yr ymgynghoriad.

Dywedodd bod begera yn “broblem fawr” ac yn rhywbeth oedd yn atal pobol rhag mynd i ganol dinas Casnewydd.

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu’r wythnos hon, dywedodd y Cynghorydd Matthew Evans: “Mae’r cwestiwn braidd yn amwys … ond mae’n nifer sylweddol.

“Os cawn ymgynghoriad gyda phobl ac yna peidio gwrando, nid yw’n edrych yn dda.”