Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gwaith cynnal a chadw ar argae Llyn y Rhath i leihau’r risg o lifogydd.

Dywed y Cyngor fod y risg o lifogydd yn y ddinas yn cynyddu o hyd oherwydd newid hinsawdd, ac mae’n debyg nad oes digon o fesurau i atal dŵr rhag gorlifo i’r parc ar hyn o bryd.

Byddai’r prosiect yn dechrau ym mis Tachwedd eleni, gydag archwiliadau gan beirianwyr o’r safle, a byddai’r cyfnod adeiladu yn digwydd rhwng Tachwedd 2022 a diwedd 2023.

Oherwydd statws rhestredig y llyn a’r parc, byddai’n rhaid cael caniatâd arbennig cyn dechrau unrhyw waith adeiladu, a gallai rhai coed gael eu torri ar ben hynny.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynllunio i wario £25m ar forglawdd ar hyd aber afon Rhymni, gyda’r gwaith hwnnw i fod i ddechrau fis Chwefror nesaf.

Tywydd mwy eithafol

Dywed y Cynghorydd Michael Michael fod y gwaith yn cael ei gynllunio er mwyn atal effeithiau newid hinsawdd.

“Mae newid hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael stormydd amlach a dwysach yng Nghaerdydd,” meddai.

“Felly mae angen i orlifan yr argae allu ymdopi â’r potensial ar gyfer digwyddiadau tywydd mwy eithafol.”

Gall trigolion gael mwy o wybodaeth mewn webinar ar-lein nos Fawrth, Hydref 12 am 6 o’r gloch, neu mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb yn y parc ar Hydref 23 a 26.

“Mae Parc y Rhath yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd, ac mae rhaglen lawn i ymgysylltu â’r cyhoedd wedi’i chynllunio cyn i’r gwaith ddechrau, fel bod preswylwyr, busnesau a defnyddwyr parciau yn cael eu hysbysu’n llawn,” meddai Michael Michael wedyn.

“Bydd yr astudiaeth fanwl a fydd yn cychwyn yn ddiweddarach eleni a’r gwelliannau a fydd yn dilyn yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol, fel y gellir parhau i fwynhau’r parc yn ddiogel wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg.”