Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad fore dydd Sadwrn (Medi 25) wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Andy Fowell yn 66 oed ac yn byw ger Biwmares ar Ynys Môn.

Roedd yn teithio ar gefn beic ar yr A4086 rhwng Pen-y-pass a Nant Peris pan gafodd ei daro gan fws am oddeutu 11:30yb.

“Daeth Andy Fowell yn Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn Ysbyty Gwynedd, ar ôl symud i Ynys Môn ym 1997 i ymgymryd â’r swydd a sefydlu’r Gwasanaeth Gofal Lliniarol ar gyfer Gogledd Cymru,” meddai ei deulu wrth dalu teyrnged iddo.

“Yn briod am 43 mlynedd ag Anne, mae ganddyn nhw ddau o blant, Rachel a Richard.

“Roedd yn dad balch i’r ddau ac yn dotio ar ei ddau o wyrion, Fraser a Tilly.

“Roedd Andy yn feiciwr angerddol, a dwy flynedd a hanner yn ôl, fe wnaeth feicio o Istanbul i Ynys Môn gyda’i ddau ffrind, Steve a Rodger, gan godi £25,000 ar gyfer Hosbis St David’s a The Motor Neurone Disease Association.

“Roedd ei ddiddordebau blaenorol yn cynnwys dringo creigiau, paragleidio, ac yn fwy diweddar rhwyfo, rhedeg, golff, hwylio, celf, cerddoriaeth ac roedd yn ddarllenydd brwd.

“Bydd colled fawr ar ôl Andy, ei synnwyr digrifwch sych a’i ffraethineb yn difyrru pawb.

“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb yn lleoliad y ddamwain am eu holl gymorth a’r holl wasanaethau brys.”

Apêl am wybodaeth

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi mynegi eu cydymdeimladau dwysaf i deulu Andy Fowell, gan ddweud eu bod nhw’n derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw dystion pellach i’r digwyddiad gysylltu â nhw drwy eu gwefan neu drwy rif ffôn 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000668047.