Mae un garej betrol wedi bod yn ceisio helpu cwsmeriaid rheolaidd i gael blaenoriaeth wrth lenwi eu ceir.

Yn ôl un o weithwyr Garej Prysor yn Nhrawsfynydd, sydd ar ymyl yr A470, doedd yna ddim diffyg petrol i ddechrau cyn i’r cyhoedd achosi prinder.

Fe wnaeth prinder gyrwyr lorïau effeithio ar gyflenwadau tanwydd mewn rhai gorsafoedd petrol, ond er bod pobol wedi cael eu hannog i beidio â phrynu petrol mewn panig wedi hynny, fe wnaeth llawer anwybyddu’r alwad honno.

“Mae pobol wedi prynu a phrynu, a hynny sydd wedi creu’r broblem”, meddai rheolwr un garej yng Nghaernarfon wrth golwg360.

Mae un cwmni cludo nwyddau trwm wedi mynegi amheuaeth ynghylch cynllun diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig i groesawu mwy o yrwyr loriau o dramor hefyd.

Dywedodd Brian Jenkins o gwmni D Jenkins & Son o Felinfach, Ceredigion, na fyddai rhoi fisas dros dro i 5,000 o yrwyr lorïau’n “gwneud fawr o wahaniaeth”, yn enwedig yn y tymor byr,

Ychwanegodd yntau nad oes angen mynd i banig am y prinder diweddar mewn tanwydd, gan ddweud “petai ddim cymaint o sylw i’r ffaith bod gyrwyr yn brin, fyddai hynny heb ddigwydd”.

Dim dadlau dros danwydd

Mae Elain Iorwerth, sy’n gweithio yn Garej Prysor yn Nhrawsfynydd, hefyd yn beio’r cyfryngau am achosi’r panig.

Bu’r garej wrthi’n ffonio cwsmeriaid cyson sydd â chyfrifon â’r garej dros y penwythnos er mwyn dweud wrthyn nhw am fynd i nôl petrol cyn gynted â phosib, rhag ofn na fyddai mwy yn cyrraedd erbyn dydd Mawrth.

Mae’r garej wedi bod “lot prysurach” na’r arfer, yn ôl Elain Iorwerth.

“Ond y peth ydi, doedd yna ddim diffyg petrol cynt, dim ond bod y cyfryngau wedi dweud wrth bobol bod yna brinder felly mae’r cyhoedd wedi achosi’r prinder yna erbyn rŵan,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni redeg allan am ryw ddwy awr fore dydd Sadwrn.

“Ond rydyn ni’n dal i gael deliveries yn iawn, dydi Essar ddim yn stryglo gymaint efo diffyg dreifars.”

Dydi’r garej heb weld cwsmeriaid yn bod yn annifyr, nac wedi gweld dadlau dros danwydd, ond maen nhw wedi wynebu un broblem gyson dros y dyddiau diwethaf.

“Rydyn ni’n gorfod ailagor lot ar ôl cau gan fod pobol yn mynd yn flin efo ni, ac unwaith rydyn ni’n agor i un person, mae yna lwyth o geir eraill yn dod ar eu holau nhw!” meddai Elain Iorwerth wedyn.

“Fe wnaethon ni ffonio o gwmpas y bobol sydd gan gyfrifon yn y garej fore dydd Sadwrn i ddweud wrthyn nhw nôl petrol cyn gynted â phosib rhag ofn i ni beidio cael delivery cyn dydd Mawrth a fysa nhw’n styc.

“Os wnes i ddeall yn iawn, roedd gennym ni un pwmp diesel a phetrol ar gau tan ddydd Llun hefyd i arbed tanwydd i’r bobol leol.”

 

“Mae pobol wedi prynu a phrynu, a hynny sydd wedi creu’r broblem”

Gwern ab Arwel

Roedd rhai garejys wedi rhedeg allan o danwydd dros y penwythnos ar ôl i bobol ddechrau prynu mewn panig

Rhoi fisas dros dro i 5,000 o yrwyr lorïau am “wneud fawr ddim gwahaniaeth”

Gwern ab Arwel

“Hyd yn oed os fydd pentwr yn dod draw dros y tri mis nesaf, rydyn ni’n mynd i gael cyfnod eithaf hwylus ond peth nesaf fyddwn ni’n ôl yn sgwâr un”