Fe wnaeth y pandemig amlygu’r bwlch rhwng sefydliad sydd â threfniadau da i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a’r rheiny sydd heb drefniadau digonol, yn ôl adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl canfyddiadau’r adroddiad, fe wnaeth rhai sefydliadau lwyddo i fanteisio ar gyfleoedd i arloesi a chryfhau darpariaeth gwasanaethau Cymraeg.

Mae adroddiad Camu Ymlaen yn dangos bod y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd gweithgaredd hybu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg hefyd.

Pwrpas yr adroddiad eleni oedd crynhoi effaith y pandemig ar ddarpariaeth Gymraeg sefydliadau a phrofiadau siaradwyr Cymraeg gyda’u gwasanaethau.

Mae’r adroddiad yn edrych ar y rhwystrau ar gafodd effaith andwyol, ond hefyd ar yr arferion effeithiol sydd wedi deillio o’r cyfnod.

Prif ganfyddiadau

Wrth drafod ei brif ganfyddiadau, dywed Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fod nifer o sefydliadau wedi canfod datrysiadau technegol er mwyn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gynnal cyfarfodydd rhithiol.

Fe wnaeth nifer o wasanaethau cyfieithu sefydliadau ddygymod â’r pwysau gwaith arnyn nhw hefyd, meddai’r adroddiad.

Llwyddodd sefydliadau sydd â phrosesau hunanreoleiddio cadarn i ragweld a delio yn well gydag anawsterau, meddai.

Ychwanega fod angen i sefydliadau oedd wedi methu parhau i weithredu gymryd golwg ar drefniadau’r rhai a lwyddodd.

Gan fod rhai sefydliadau wedi gwneud penderfyniad brys heb ystyried y Gymraeg, doedd gwasanaeth Cymraeg ddim ar gael fel yr oedd cyn hynny, mewn rhai sefyllfaoedd.

Wrth holi barn y cyhoedd ym mis Tachwedd 2020, dangosodd arolwg yr Omnibws fod 35% o siaradwyr Cymraeg o’r farn fod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddi yn cynyddu, a 45% o’r farn eu bod yn aros yr un peth.

Dim ond 16% o siaradwyr Cymraeg oedd yn ffafrio defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â chyrff cyhoeddus, sef gostyngiad o ganfyddiadau’r ddwy flynedd flaenorol, oedd yn 33% a 32%.

Roedd 82% o siaradwyr Cymraeg yn cytuno eu bod nhw, fel arfer, yn gallu delio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg petaen nhw’n dymuno.

Er hynny, dywedodd 20% o siaradwyr Cymraeg fod rhywun wedi’u rhwystro rhag siarad Cymraeg gyda rhywun arall oedd hefyd eisiau siarad Cymraeg, sef cynnydd o 5% i’r ganran a nododd eu bod nhw wedi profi ymyrraeth y llynedd.

Amlygu’r bwlch

Dywed Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fod Covid-19 wedi gorfodi pawb i “fyw ein bywydau o ddydd i ddydd mewn ffyrdd gwahanol”, a bod sefydliadau cyhoeddus Cymru wedi gorfod “addasu’n sydyn i ‘normal newydd’”.

“Amlygodd y pandemig y bwlch oedd eisoes yn ymddangos rhwng y sefydliadau sy’n cydymffurfio’n dda a’r rhai sydd heb drefniadau digonol,” meddai Aled Roberts.

“Manteisiodd rhai sefydliadau ar y cyfleoedd i arloesi tra bod y ddarpariaeth Gymraeg wedi llithro gan eraill. Yn gyffredinol, daeth yn amlwg bod angen i sefydliadau wneud mwy i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu defnydd ohonynt.

“Nid pwyntio bys yw bwriad yr adroddiad hwn, yn hytrach amlygu’r gwersi sydd i’w dysgu er mwyn galluogi sefydliadau i gymryd camau i gryfhau eu darpariaeth Gymraeg a chynyddu defnydd ohonynt i’r dyfodol.

“Er yr holl heriau eleni, mae’r ymchwil yn dangos parhad yn y patrwm fod profiadau siaradwyr Cymraeg wedi gwella ers sefydlu hawliau iaith yn sgil safonau’r Gymraeg.

“Ond mae angen gwella’r profiadau hyn ymhellach, ac er mwyn fy ngalluogi i osod safonau ar ragor o sefydliadau, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi safonau a chyflwyno rheoliadau.

“Rwyf wedi cyflwyno rhaglen i’r Llywodraeth ei hystyried ar gyfer symud y gwaith hwn yn ei flaen cyn gynted â phosibl, ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r dasg.”