Mae cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi herio’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles ynghylch diffygion yn nghronfa Ysgolion yr 21ain ganrif.

Bwriad y gronfa yw cyfrannu arian i sefydliadau addysg fel eu bod nhw’n gallu cynnal gwaith uwchraddio a lleihau’r nifer o adeiladau sydd mewn cyflwr gwael.

Ond mae Cyngor Sir Gar, yn ogystal â Chymdeithas yr Iaith, yn dweud nad oes yna’r un ysgol fach neu wledig yng Nghymru wedi derbyn arian ar gyfer uwchraddio.

Maen nhw’n honni bod hyn yn “groes i bolisi honedig y Llywodraeth o blaid cadw a datblygu ysgolion gwledig”.

Argymhellion

Grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Craffu ar Addysg wnaeth yr argymhelliad, ac mae’r pwyllgor hwnnw’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Darren Price.

“Ar yr un llaw, mae gennych chi strategaeth [Ysgolion] yr 21ain ganrif, ac ar y llaw arall mae gennych chi bolisi sy’n ceisio amddiffyn ysgolion gwledig,” meddai.

“Dydy’r ddau beth hynny ddim yn cyd-weld ar hyn o bryd.”

Edrychodd y grŵp gorchwyl a gorffen hefyd ar faterion eraill, megis sut yr ymgynghorodd y cyngor ar ei bolisïau addysg amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys newid yr iaith y dysgir gwersi ynddi.

Cymeradwyodd cabinet Plaid Cymru-Annibynnol chwe argymhelliad interim y grŵp, a bydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y mater ariannu ar gyfer ysgolion bach.

Gofyn am atebion

“Byddwn ninnau’n mynnu hefyd fod Jeremy Miles yn cynnig esboniad am hyn,” meddai Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r Gweinidog wedi sicrhau Cymdeithas yr iaith mewn cyfarfod ychydig o wythnosau yn ôl fod arian o’r gronfa ar gael ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion presennol (yn cynnwys ysgolion Pentrefol) yn ogystal ag ar gyfer adeiladau ac ysgolion newydd.

“Gofynnwn y cwestiwn: ‘Ai swyddogion Bwrdd Cronfa Ysgolion yr 21ain ganrif sy’n tanseilio polisi’r llywodraeth, neu ai’r Awdurdodau Lleol sy ddim yn cyflwyno ceisiadau am arian i uwchraddio ysgolion bach ac yn canolbwyntio ar brosiectau prestige yn unig?’

“Mae cymunedau gwledig yn disgwyl ateb i weld ble mae’r cyfrifoldeb am y methiant, gan nad ydynt yn derbyn unrhyw gyfran o’r gyllid ar hyn o bryd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ymateb i’r cwestiwn hwnnw sy’n cael ei ofyn gan Gymdeithas yr Iaith, gan ddweud mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wneud ceisiadau am arian o’r Gronfa.

Dywedon nhw hefyd bod pob cais yn cael ei asesu o ran ei gryfder, ac nid ar faint yr ysgol.

“Mae rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif nid yn unig yn helpu i adeiladu ysgolion newydd rhagorol,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“Mae hefyd yn ehangu, adnewyddu a moderneiddio ysgolion presennol, fel y gallant barhau i ddarparu addysg o safon i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

“Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am drefniadaeth ysgolion yn eu hardal.

“Cyflwynir ceisiadau ar gyfer cronfa’r 21ain Ganrif gan awdurdodau lleol, yn seiliedig ar eu cynlluniau buddsoddi eu hunain.

“Mae’r awdurdod lleol yn nodi ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i’w cyflawni, er mwyn sicrhau bod y cyfleuster cywir yn cael ei ddarparu yn y lle cywir, i gefnogi’r galw presennol ac yn y dyfodol.

“Caiff pob cynnig ei ystyried a’i asesu’n drylwyr fesul achos, yn seiliedig ar ei gryfder, yn hytrach na maint yr ysgol, i sicrhau bod y buddsoddiad arfaethedig yn addas.”