Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o ymddwyn yn drahaus wrth gyflwyno rheolau gwahanol i weddill y Deyrnas Unedig ar deithio dramor.

Daw hyn ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan gyflwyno rheolau newydd ynglŷn â phrofi cyn gwyliau heddiw (27 Medi).

Mae’r rheolau newydd hynny yn golygu na fydd rhaid i bobol sydd wedi cael eu brechu’n llawn gael prawf cyn hedfan, a bydd rhestrau teithio gwyrdd ac oren yn cael eu cyfuno yn y cyfamser.

Fe gafodd y rheolau eu newid yn dilyn pryderon bod gwyliau yn rhy ddrud i deuluoedd ac oherwydd bod cyfraddau brechu yn uchel yng Nghymru.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn anhapus bod Eluned Morgan wedi cwyno ei bod hi’n anodd plismona rheolau newydd ynglŷn â phrofi gan eu nhw’n wahanol i’r rheolau yn Lloegr.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod Llywodraeth Cymru wedi treulio rhan fwya’r pandemig yn cymeradwyo’r angen am reolau gwahanol, ac wedi anwybyddu pryderon pleidiau eraill ynglŷn â hynny.

“Mae rhyddhau datganiad swyddogol mor anniddig â hyn yn drahaus,” meddai.

“Mae’r penderfyniad i ddiweddaru’r rheolau ar deithio dramor yn adlewyrchu rhaglen frechu lwyddiannus y Deyrnas Unedig yn ogystal â’r awydd i deuluoedd fynd ar wyliau yn rhatach a gyda mwy o sicrwydd.

“Felly mae’n siomedig gweld Ysgrifennydd Iechyd Llafur yn cwyno am y newid hwn oherwydd bod cael gwahanol reolau ledled y Deyrnas Unedig yn ddryslyd ac yn anodd eu gorfodi, yn enwedig ar ôl i’w Llywodraeth hi dreulio 18 mis yn ymhyfrydu mewn ymddygiad o’r fath.

“Yn anffodus i bobol Cymru, nid yw Llafur yn gwybod a ydyn nhw’n mynd neu ddod efo rhestrau teithio.

“Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gallu byw mewn ofn parhaol am amrywiolyn arall o Covid.

“Byddai’r rhesymeg fympwyol y tu ôl i benderfyniadau’r Gweinidog yn gweld y ffiniau’n cau am gyfnod amhenodol.

“Heddiw, bydd Mark Drakeford yn dweud wrth y Blaid Lafur yn Lloegr i edrych ar Gymru i weld beth allan nhw ei wneud – os yw Starmer yn chwilio am wers ar sut i swnian yn hytrach na llywodraethu, yna ni allai ddewis enghraifft well.”

Awyren

Llywodraeth Cymru’n cyfuno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren

Fydd dim rhaid i bobol sydd wedi cael eu brechu’n llawn gael prawf cyn hedfan chwaith