Mae’n ymddangos nad oes mwy o fenywod na dynion yn senedd Gwlad yr Iâ wedi’r cyfan.

Yn dilyn yr etholiad dros y penwythnos, roedd hi’n ymddangos bod menywod wedi ennill 33 o seddi allan o 63 yn yr Althing, gyda dim ond 30 o ddynion.

Ond ar ôl cyfri’r pleidleisiau eto yng ngorllewin y wlad, dim ond 30 o seddi oedd gan fenywod – canlyniad sy’n efelychu canlyniadau etholiad cyffredinol 2016.

Ond 48% o’r cyfanswm o bleidleisiau yw’r ganran uchaf erioed i fenywod yn Ewrop.

Dim ond llond dwrn o wledydd sydd â menywod yn y mwyafrif.

Yng ngweddill y byd, mae 61% o Siambr Dirprwyon Rwanda’n fenywod, gyda Chiwba, Nicaragwa a Mecsico ag ychydig dros 50% yn fenywod.

Ledled y byd, ychydig dros chwarter y gwleidyddion sy’n deddfu sy’n fenywod.

Mae chwe ardal etholaethol yng Ngwlad yr Iâ.

Enillodd y tair plaid sy’n rhan o glymblaid y prif weinidog Katrin Jakobsdottir gyfanswm o 37 o seddi rhyngddyn nhw – dwy yn fwy na’r etholiad diwethaf.