Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y rhestrau teithio gwyrdd ac oren yn cael eu cyfuno.

Fydd dim rhaid i bobol sydd wedi cael eu brechu’n llawn gael prawf cyn hedfan chwaith.

Maen nhw’n bwriadu gwneud y newidiadau erbyn Hydref 4, gan gyd-fynd â system newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn Lloegr, bydd teithwyr sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn cael defnyddio profion llif unffordd ar yr ail ddiwrnod wedi iddyn nhw ddychwelyd, yn hytrach na phrawf PCR.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â pheidio â defnyddio profion PCR, ond maen nhw wedi dweud yn glir eu bod nhw’n gwrthwynebu’r newid.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wyrdroi eu penderfyniad.

‘Dull gofalus’

Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson am “ddull gofalus o ymdrin â theithio rhyngwladol”.

“Rydyn ni wedi galw’n gyson am ddull gofalus o ymdrin â theithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i’r Deyrnas Unedig, yn enwedig amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, na fydd efallai’n ymateb i’r brechlynnau,” meddai.

“Mae’r penderfyniad i beidio â’i gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n dychwelyd wneud profion PCR ar ddiwrnod dau yn peri pryder.

“Mae’r prawf hwn, a dadansoddi dilyniant genom yr holl ganlyniadau positif, yn rhan allweddol o’n gwyliadwriaeth ar gyfer coronafeirws, gan hefyd ddiogelu ein ffiniau rhag y feirws.

“Rydyn ni’n cydnabod yr heriau cyfathrebu a gorfodi a geir yn sgil gofynion profi gwahanol, ac rydyn ni’n parhau i archwilio’r dystiolaeth am drefn brofi i Gymru yn unig, ond y ffordd orau o ddiogelu iechyd y cyhoedd yw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailgyflwyno profion ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.”

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried i ba wledydd y bydd yn ymestyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dylid neilltuo profion PCR ar gyfer teithwyr o dramor, yn ôl Mark Drakeford

Prif weinidog Cymru’n dweud bod “penderfyniad anodd” i’w wneud ynghylch rheolau teithio