Mae Mark Drakeford yn wynebu galwadau newydd i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig yng Nghymru.
Cododd Hannah Brady, sy’n ymgyrchu gyda grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice, y mater mewn digwyddiad a oedd yn gysylltiedig â chynhadledd y Blaid Lafur, gan ddweud ei bod yn “gywilyddus” nad yw’r llywodraeth wedi addo ymchwiliad i deuluoedd Cymraeg.
Ond hyd yn hyn, mae Mark Drakeford wedi gwrthod y galwadau.
“Yn anghredadwy, mae gennym ni Brif Weinidog Llafur yng Nghymru sy’n gwrthod cyhoeddi ymchwiliad Cymreig datganoledig,” meddai Hannah Brady.
“Mae ein teuluoedd yn yr Alban wedi llwyddo i sicrhau ymchwiliad yn yr Alban.
“Ni all ein teuluoedd Cymraeg gael ymateb i lythyrau maen nhw’n eu gyrru at Mark Drakeford hyd yn oed, sy’n gywilyddus.
“Yr unig arweinydd plaid arall sydd wedi gwneud hynny yw Boris Johnson, a dydi hwnnw ddim yn gwmni da i’r Prif Weinidog Llafur fod ynddo.
“Rydyn ni angen i gefnogaeth Llafur tuag at ymchwiliadau Covid fod yn gyson.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau mai cynnal ymchwiliad ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig, fel sydd wedi’i addo gan Boris Johnson, yw’r ffordd orau i ymchwilio i’r pandemig.
“Cael ein hanghofio”
Fe wnaeth Hannah Brady feirniadu Aelodau Seneddol sydd wedi methu cefnogi ei grŵp, ond fe wnaeth hi ganmol Syr Keir Starmer, y dirprwy arweinydd Angela Rayner, a Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, am gefnogi galwadau ymgyrchwyr am ymchwiliad cynnar yn y Deyrnas Unedig.
“Ni ddylwn i orfod cysuro fy aelodau pan maen nhw’n ysgrifennu at Aelodau Seneddol Llafur am anwyliaid sydd wedi marw, yn gofyn iddyn nhw am gefnogaeth tuag at ymchwiliad cyhoeddus, a chael eu hanwybyddu,” meddai Hannah Brady.
“Ymateb yw’r peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu.
“Rydyn ni’n teimlo fel ein bod ni wedi cael ein hanghofio gan y Llywodraeth yn barod, rydyn ni angen i Lafur ddal eu safonau uwch.
“Cafodd gweithwyr allweddol, aelodau undebau, pleidleiswyr y Wal Goch fel fy nhad, eu gyrru i’r lladd-dy i gadw’r wlad hon yn fyw.”
Dywedodd bod ei theulu’n haeddu gwybod “pam fu farw a beth sy’n cael ei wneud i atal pobol eraill fel fe rhag marw heb fo angen”.