Y Democratiaid Sosialaidd, plaid sydd i’r chwith o’r canol, sydd wedi ennill y gyfran fwyaf o’r bleidlais yn etholiad cyffredinol yr Almaen, gan guro bloc Union y Canghellor Angela Merkel, sydd i’r dde o’r canol.

Yn gynnar heddiw (dydd Llun, Medi 27), dywedodd swyddogion yr etholiad fod y cyfri ym mhob un o etholaethau’r Almaen yn dangos bod y Democratiaid Sosialaidd wedi ennill 25.9% o’r bleidlais, a’r bloc Union wedi ennill 24.1%.

Dydi’r un o’r pleidiau buddugol mewn etholiadau cyffredinol yn yr Almaen wedi cael llais na 31% o’r bleidlais o’r blaen.

Dywed Olaf Scholz, ymgeisydd y Democratiaid Sosialaidd, fod y canlyniad yn “fandad clir i sicrhau ein bod ni’n creu llywodraeth dda, bragmataidd i’r Almaen”.

Mae Angela Merkel am roi’r gorau i’w swydd eleni, ond bydd hi’n aros yn y rôl nes bydd ei holynydd yn dod i rym.

Er i’r bloc Union gael eu canlyniad gwaethaf erioed mewn pleidlais ffederal, maen nhw wedi dweud eu bod nhw am drafod ffurfio llywodraeth gyda phleidiau llai.

Armin Laschet oedd ymgeisydd y bloc Union, ond methodd ag ysbrydoli cefnogwyr traddodiadol ei blaid.

“Wrth gwrs, mae hon yn golled pleidleisiau sydd ddim yn un hardd,” meddai am y canlyniadau.

Ond gyda Angela Merkel yn gadael ar ôl 16 mlynedd mewn grym, “doedd gan neb fonws o reidrwydd yn yr etholiad hwn,” meddai.

Dywedodd Armin Laschet wrth gefnogwyr y bydden nhw’n “gwneud popeth o fewn eu gallu i ffurfio llywodraeth dan arweinyddiaeth Union, oherwydd mae angen clymblaid ar yr Almaen ar gyfer y dyfodol sydd am foderneiddio’r wlad”.

Clymblaid

Bydd y Democratiaid Sosialaidd a bloc Union yn ceisio trafod â’r blaid Werdd, a ddaeth yn drydydd gyda 14.8% o’r bleidlais, a’r Democratiaid Rhydd, a gafodd 11.5% o’r bleidlais.

Mae’r Blaid Werdd yn tueddu i ochri gyda’r Democratiaid Sosialaidd, a’r Democratiaid Rhydd yn tueddu i ochri â’r Union, ond mae’r ddwy blaid wedi dweud y gall hynny newid.

Yr opsiwn arall fyddai creu clymblaid rhwng yr Union a’r Democratiaid Sosialaidd, fel digwyddodd yn ystod 12 o’r 16 mlynedd y bu Angela Merkel mewn grym.

Ond does dim awydd amlwg am hynny wedi blynyddoedd o ddadlau ymysg y llywodraeth.

Mae’n ymddangos bod Christian Lindner, arweinydd y Democratiaid Rhydd, yn awyddus i ddod i rym, gan awgrymu y dylai ei blaid a’r Blaid Werdd ddechrau trafodaethau.

“Ni wnaeth tua 75% o Almaenwyr bleidleisio dros blaid y Canghellor nesaf,” meddai Christian Lindner wrth siarad mewn trafodaethau wedi’r etholiad ar sianel ZDF.

“Felly efallai y byddai’n beth da… pe bai’r Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhydd yn siarad â’i gilydd er mwyn strwythuro popeth sy’n digwydd wedyn.”

Cododd y gefnogaeth tuag at y Blaid Werdd ers yr etholiad diwethaf, ond roedd ganddyn nhw ddisgwyliadau uwch ar gyfer y bleidlais.

Derbyniodd y blaid dde eithafol, Alternative für Deutschland, 10.3% o’r bleidlais, ond fyddan nhw ddim yn ymddangos mewn unrhyw glymblaid gan nad oes neb yn fodlon gweithio â nhw.

Am y tro cyntaf ers 1949, roedd disgwyl i’r blaid leiafrifol Ddaneg, SSW, ennill sedd.

Mae’n “newyddion da” y bydd gan lywodraeth nesaf yr Almaen fwyafrif gyda phleidiau o’r canol, waeth pa bleidiau fydd yn ffurfio’r llywodraeth, meddai Christian Lindner.

“Gall pawb oedd yn poeni am sefydlogrwydd yr Almaen yn Ewrop a thu hwnt weld nawr: bydd yr Almaen yn sefydlog waeth beth fo’r achos,” meddai.

Does yna ddim manylion llawn am y canlyniadau fesul sedd ar hyn o bryd yn sgil system etholiadol gymhleth yr Almaen.

Llun pen ac ysgwydd o Angela Merkel mewn siaced las

Cyfnod Angela Merkel wrth y llyw yn dod i ben yn yr Almaen

Mae pleidleiswyr yn ethol llywodraeth a Changhellor newydd