Powys sydd â’r ail gysylltedd digidol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil newydd gan N.Rich.

Dydy un o bob pump o bobol yn y sir ddim wedi defnyddio’r rhyngrwyd o gwbl yn ystod y tri mis diwethaf, os o gwbl.

Mae hynny bron i dair gwaith y cyfartaledd yn genedlaethol o ran pobol oedd heb ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (7%).

Does gan un o bob pum eiddo yn y sir fynediad i ryngrwyd cyflym iawn, o’i gymharu â’r 98% sydd â chysylltedd yn Bexley & Greenwich, yr ardal sydd â’r cysylltedd gorau yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r astudiaeth yn defnyddio ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Ofcom i restru ardaloedd yn ôl nifer y bobol sydd wedi bod ar-lein dros gyfnod o dri mis a nifer yr eiddo sydd â mynediad i ryngrwyd cyflym iawn.

Powys yw’r unig ardal yng Nghymru yn y deg uchaf o ran ardaloedd sydd â’r cysylltedd gwaethaf, a does yna’r un ardal yng Nghymru yn y deg gorau.

Dim ond yn Fermanagh ac Omagh yng Ngogledd Iwerddon mae’r sefyllfa’n waeth nag yw hi ym Mhowys ac mae sawl ardal arall yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ar y rhestr, tra bod naw allan o’r deg ardal orau yn ne-ddwyrain Lloegr ynghyd â Coventry yn y canolbarth.

Cysylltedd “yn bwysicach nag erioed”

Yn ôl llefarydd ar ran N.Rich, mae cysylltedd yn bwysicach nag erioed yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at y gwahaniaethau o un ardal i’r llall.

“Pan gymharwch chi’r defnydd trigolion yn y Deyrnas Unedig o’r rhyngrwyd gyda’u gallu i gael mynediad i fand llydan cyflym iawn, mae’n paentio darlun clir o’r rhaniadau digidol a lle mae’n bwrw galetaf,” meddai.

“Gan mai’r rhyngrwyd erbyn hyn yw ein prif ddull o gyfathrebu, o addysgu ein plant i gael mynediad i waith a rhedeg busnesau, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod gan bob rhan o’r Deyrnas Unedig gysylltedd digidol da.”