Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw (28 Medi) y bydd rhaid i ddatblygiadau ystyried y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol sy’n cael eu hachosi gan newid hinsawdd wrth gynllunio yn y dyfodol.
Am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae’r mapiau’n dangos lefelau risg presennol, yn ogystal â’r risg sy’n cael ei achosi gan newid hinsawdd.
Bydd y cyngor polisi cynllunio newydd, Nodyn Cyngor Technegol 15, neu TAN 15 yn fyr, yn llywio cynlluniau datblygu lleol yn y dyfodol, a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
Fe fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio lleol, a datblygwyr i gyfeirio datblygiadau oddi wrth ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
Mae TAN 15 yn dweud na ddylid lleoli datblygiadau newydd ar gyfer cartrefi, y gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd lle mae risg uchel o lifogydd heb amddiffynfeydd llifogydd cryf.
Os yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cymeradwyo unrhyw gynllun yn groes i’r cyngor hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu a gallen nhw benderfynu ar y cais yn uniongyrchol.
“Atal difrod”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod “perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru yn cynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd”.
“Mae llifogydd difrifol yn digwydd yn amlach, a bydd rhai ardaloedd lle mae’r risg yn fach ar hyn o bryd yn dod yn agored i lifogydd wrth i’n hinsawdd barhau i newid,” meddai Julie James.
“Fel y mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn ei gydnabod, gall y system gynllunio helpu cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd drwy leoli datblygiadau mewn ardaloedd sydd i ffwrdd o berygl llifogydd.
“Gall gwell gwybodaeth am y lleoedd a fydd mewn perygl yn y dyfodol helpu i gadw pobl yn ddiogel, drwy atal y difrod a’r tarfu ar gartrefi, gweithleoedd a seilwaith y gall llifogydd eu hachosi.”
Mae’r parthau llifogydd yn seiliedig ar lefelau risg cyfredol gan ychwanegu lwfansau ar gyfer newid hinsawdd.
Felly, maent yn cynnwys ardaloedd sy’n cael eu hystyried i fod yn debygol o fod mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol, gan ei gwneud yn bosibl i benderfyniadau cynllunio roi ystyriaeth uniongyrchol i effaith ddisgwyliedig newid hinsawdd ar berygl llifogydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyhoeddi’r mapiau, a bydden nhw’n cael eu diweddaru bob mis Mai a mis Tachwedd.
Ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd lle mae risg isel ac ardaloedd ag amddiffynfeydd llifogydd cryf, ac ar gyfer datblygiadau llai agored i niwed mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd, bydd sicrhau caniatâd cynllunio yn dibynnu ar basio profion TAN15.
Mae’r profion hyn yn cynnwys rhoi cyfiawnhad dros y lleoliad mewn ardal o dan risg o lifogydd, bod ar dir llwyd, a’r gallu i wrthsefyll achosion o lifogydd.
Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.