Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio’i Hadolygiad o Wariant yr hydref hwn i rannu cyfrifoldeb ac i ddyrannu cyllid hirdymor er mwyn sicrhau bod tomennydd glo Cymru yn ddiogel, yn ol Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Bydd Adolygiad o Wariant y mis nesaf yn pennu faint o arian fydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd at 2024-25.
Ar sail gwybodaeth oddi wrth yr Awdurdod Glo, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod mwy na 40% o holl domennydd glo’r Deyrnas Unedig yng Nghymru – a bod tua un o bob saith ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel.
Mae Rebecca Evans yn galw ar Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak, i rannu cyfrifoldeb ac i ddyrannu cyllid sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yng Nghymru yn ystod y cyfnod cyn datganoli.
Amcangyfrifir y bydd angen rhwng £500m a £600m dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.
“Cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol”
“Mae’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yn effeithio’n anghymesur ar Gymru ac mae effeithiau’r hinsawdd yn golygu bod tomennydd glo yn peri mwy o risg i’n cymunedau,” meddai Rebecca Evans.
“Gan fod y mater hwn yn un sy’n dyddio o’r cyfnod cyn datganoli, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig rannu cyfrifoldeb ac atal tirlithriad arall.
“Wrth i law ddwysáu a’r tymheredd godi, mae’r risgiau i fywydau ac i fywoliaeth pobl yn cynyddu mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.
“Mae sicrhau bod y tomennydd yn ddiogel cyn iddyn nhw lithro yn fwy costeffeithiol o lawer nag aros i un yn unig o’r tomennydd risg uchel lithro. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn ac i ariannu’r costau hirdymor hyn.
“Mae cyfle inni gydweithio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n ein hwynebu o ran yr hinsawdd ac o ran byd natur, ac mae’r Adolygiad o Wariant eleni yn gyfle i ganfod y tir cyffredin hwnnw ac i adael gwaddol cadarnhaol, tecach a pharhaol i gyn-ardaloedd glofaol yng Nghymru.”
Galwadau eraill
Cyn yr Adolygiad o Wariant, bydd y Gweinidog Cyllid hefyd yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig achub ar y cyfle i fuddsoddi yng Nghymru drwy fynd i’r afael â’r tanariannu hanesyddol mewn seilwaith rheilffyrdd ac ym maes ymchwil a datblygu.
Bydd yn gofyn hefyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailystyried ei phenderfyniad i atal £375 miliwn o gyllid strwythurol blynyddol yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gefnogi rhaglenni, gan gynnwys rhai ym maes cyflogadwyedd, sgiliau a phrentisiaethau.
Ac mae am weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi yn union yr un faint o gyllid i ffermwyr ag a roddwyd gynt gan yr Undeb Ewropeaidd ac ariannu’r gwaith sy’n parhau i fynd rhagddo mewn porthladdoedd ers gadael yr Undeb Ewropeaidd.