Mae’r arfer o ddisodli enwau Cymraeg â rhai Saesneg yn “fygythiad i hunaniaeth y genedl”, yn ôl yr ymgyrchydd iaith Cynog Dafis.

Daw hyn wedi i safle glampio yn ei gyn-gartref ef a’i wraig Llinos, Crugyreryr Uchaf yn Nhalgarreg, gael enw Saesneg.

Mae ‘Upper Eagle Farm’ bellach yn safle glampio, ac mae’r cyn-Aelod Seneddol dros Blaid Cymru wedi ysgrifennu at berchnogion y safle i bwyso arnyn nhw i ailystyried yr enw.

Mewn llythyr agored, sydd wedi cael ei yrru at Gyngor Sir Ceredigion a’r Cyngor Bro hefyd er mwyn galw am gefnogaeth i’w cais, mae Cynog a Llinos Dafis yn esbonio bod yr enw i’w weld ar fapiau o’r Oesoedd Canol ac mai “gweithred o ddifrod diwylliannol” yw rhoi enw Saesneg ar y safle.

“Difrod diwylliannol”

Ystyr “crug” yw bryncyn ac yn yr enw Crugyreryr Uchaf, mae’n cyfeirio at fryncyn uchel serth o rafel a oedd y tu ôl i’r tŷ cyn dyddiau’r chwarel, meddai Cynog Dafis.

Cafodd y bryncyn ei ffurfio yn Oes yr Iâ, dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae gan y gair “eryr” nifer o ystyron.

Gall olygu aderyn, neu arwr neu wron o ddyn.

Ystyr pellach yw codiad tir amlwg, ac mae’n debyg mai dyna’r ystyr yma, meddai – fel sydd i’w gael yn Eryri.

“A ninnau’n gyn-breswylwyr Crugeryr Uchaf loes calon i ni (ond nid syndod ysywaeth) fu cael gwybod i chi roi enw Saesneg ar y lle,” meddai Cynog a Llinos Dafis yn eu llythyr.

“Dros y 38 mlynedd y buon ni yng Nghrugyreryr Uchaf, testun balchder i ni oedd cael byw mewn lle ag iddo enw mor urddasol.

“Mae’n bwysig i chi wybod pa mor hynafol ac arwyddocaol yw’r enw. Mae i’w weld mewn mapiau o’r Oesoedd Canol, sy’n golygu ei fod yn mynd nôl ymhellach fyth – o leiaf fileniwm, sy’n mynd â ni nôl i gyfnod ffurfio Cymru yn genedl. Byth ers hynny, bu trigolion Ceredigion yn arfer yr enw gyda balchder.

“Gweithred o ddifrod diwylliannol felly yw rhoi enw Saesneg ar y lle, hyd yn oed ar y ffurf ddwyieithog yr ydych chi, fel y deallwn, wedi’i mabwysiadu.”

Ers ychydig fisoedd, mae hi’n bosib rhoi cymal mewn gweithredoedd tai sy’n atal perchnogion newydd rhag newid yr enw.

“Patrwm ehangach”

Mae’r weithred yn rhan o batrwm ehangach, meddai’r llythyr wedyn.

“Yn anffodus mae’ch gweithred yn rhan o batrwm ehangach. Yma a thraw drwy Gymru mae enwau Cymraeg gwreiddiol yn cael eu disodli gydag enwau Saesneg,” meddai’r llythyr.

“I raddau helaeth, enwau llefydd sy’n diffinio tiriogaeth Cymru – gyda bod dyn yn croesi’r ffin (a chyn hynny mewn rhai ardaloedd) mae enwau llefydd yn newid, gan adlewyrchu’r ffaith mai’r Gymraeg yw priod iaith, iaith gynhenid, Cymru gyfan.

“Mae rhai eithriadau wrth gwrs, De Sir Benfro yn enwedig, o ganlyniad i wladychu neu dra-arglwyddiaeth Seisnig oesoedd a fu.

“Yr un peth sy’n gyfrifol am ffurfiau dwyieithog megis Abertawe/Swansea, y Bontfaen/Cowbridge, ac Aberteifi/Cardigan.

“Am ryw reswm rhyfedd enw Saesneg sydd ar y pentref nesaf aton ni yma. Ond yn y mwyafrif llethol o achosion, Cymraeg yw enwau llefydd Cymru, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mai Saesneg yw’r iaith gyffredin.

“Mae’r arfer cynyddol o ddisodli enwau Cymraeg â rhai Saesneg felly yn fygythiad i hunaniaeth y genedl. Pan fydd Saeson, a phobl eraill o’r tu allan, yn symud i Gymru i fyw, y peth lleiaf y mae gyda ni hawl i’w  ddisgwyl yw iddyn nhw barchu treftadaeth ieithyddol gyfoethog eu cartref newydd.

“Mae’n fwy na thebyg na chododd yr ystyriaethau yma yn eich pennau wrth i chi benderfynu ailenwi Crugyreryr.

“Wedi i chi bwyso a mesur ychydig felly rydyn ni’n hyderu y byddwch am ddileu’r ffurf Saesneg yn ddiymdroi.”

Maen nhw’n nodi nad ydyn nhw am achosi “annifyrrwch personol” i’r perchnogion wrth gyhoeddi’r llythyr.

Mae golwg360 wedi cysylltu â safle glampio Upper Eagle Farm am ymateb.