Mae lefelau amgylcheddol niweidiol o gyffuriau anghyfreithlon wedi’u canfod yn yr afon sy’n rhedeg drwy safle Gŵyl Glastonbury, meddai gwyddonwyr.
Darganfu ymchwilwyr fod lefelau o’r cyffur MDMA a chocên yn y dŵr mor uchel yn ystod yr ŵyl, gallai fod yn niweidio bywyd gwyllt ymhellach i lawr yr afon, gan gynnwys poblogaethau prin o lysywod.
Mae’r arbenigwyr bellach yn annog pobol sy’n mynychu’r ŵyl i ddefnyddio’r toiledau swyddogol, gan eu bod yn credu y gall y cyffuriau fynd i mewn i afonydd cyfagos pan nad yw pobol yn defnyddio’r toiledau ar eu cyfer.
Gweithiodd Dan Aberg, myfyriwr Meistr yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor, gyda Dr Daniel Chaplin o’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) i fesur lefelau cyffuriau anghyfreithlon cyn, yn ystod, ac ar ôl Gŵyl Glastonbury pan gafodd ei chynnal ddiwethaf yn 2019.
Cymerwyd samplau o Afon Whitelake i fyny ac i lawr yr afon o safle’r ŵyl.
Canfu’r astudiaeth fod crynodiadau MDMA wedi cynyddu pedair gwaith wythnos ar ôl yr ŵyl.
Darganfuwyd hefyd fod crynodiadau cocên wedi codi i lefelau sy’n effeithio ar gylch bywyd llysywod Ewrop, rhywogaeth sy’n cael ei warchod.
“Effaith amgylcheddol”
“Ein prif bryder yw’r effaith amgylcheddol,” meddai Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor.
“Mae’r astudiaeth hon yn nodi bod cyffuriau’n cael eu rhyddhau ar lefelau sy’n ddigon uchel i amharu ar gylch bywyd llysywod Ewropeaidd, a allai amharu ar ymdrechion cadwraeth i ddiogelu’r rhywogaeth hon sydd mewn perygl.
“Mae addysg yn hanfodol ar gyfer materion amgylcheddol, yn union fel y mae pobol wedi cael gwybod am broblemau llygredd plastig, ac mae Glastonbury wedi gwneud ymdrechion mawr i fod yn ddi-blastig.
“Mae angen i ni hefyd godi ymwybyddiaeth o wastraff cyffuriau a fferyllol – mae’n llygrydd cudd, pryderus ond a allai fod yn ddinistriol.”
Glastonbury am “weithio gyda’r ymchwilwyr”
Dywedodd llefarydd ar ran Gŵyl Glastonbury: “Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi gweithio’n galed i’w leihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy nifer o ymgyrchoedd.
“Mae pi-pi ar y tir yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w gondemnio’n gryf mewn gwyliau yn y dyfodol.
“Nid ydym ychwaith yn cymeradwyo’r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon yn Glastonbury.
“Rydym yn awyddus i weld manylion llawn yr ymchwil newydd hon, a byddem yn hapus iawn i weithio gyda’r ymchwilwyr i ddeall eu canlyniadau a’u hargymhellion.”