Mae hyd at 20 o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl ffrwydrad mewn bloc o fflatiau yn ninas Göteborg yn Sweden.

Bu’n rhaid i gannoedd o bobol adael yr adeilad wedi’r ffrwydrad a ddigwyddodd tua 5 y bore heddiw (28 Medi), ac mae tri pherson wedi cael anafiadau difrifol, yn ôl asiantaeth newyddion TT.

Mae’r gwasanaethau brys yn dal i geisio diffodd y fflamau a ledaenodd i nifer o fflatiau ar ôl y ffrwydrad yn ardal Annedal yn Göteborg, ail ddinas fwyaf y wlad.

“Roedd y tân yn llosgi mewn nifer o lefydd yn yr eiddo ac mewn nifer o fflatiau, wedi’r ffrwydrad,” meddai Jon Pile, rheolwr gweithredoedd gyda gwasanaeth achub Göteborg.

Dydi hi ddim yn amlwg beth achosodd y ffrwydrad, ond mae’r heddlu wedi dechrau ymchwiliad cychwynnol a bydden nhw’n asesu’r adeilad unwaith fydd y tanau dan reolaeth, yn ôl TT.