Mae pobol ifanc a gweithwyr ar gyflogau isel mewn ardaloedd sy’n boblogaidd â thwristiaid yn wynebu’r posibilrwydd o fethu fforddio byw yno, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Er bod cwymp wedi bod mewn prisiau tai dros y Deyrnas Unedig ers mis Mehefin, roedd prisiau tai ar gyfartaledd 8% yn uwch fis Gorffennaf eleni o gymharu â Gorffennaf 2020.
Mewn rhai ardaloedd arfordirol a gwledig, fe wnaeth prisiau godi deirgwaith mwy na’r gyfradd genedlaethol ym mis Gorffennaf.
Dim ond yn Inverclyde yn yr Alban fu twf blynyddol uwch nag yng Nghonwy, a welodd gynnydd o 25% ym mis Gorffennaf.
Bu twf uchel ym Mro Morgannwg hefyd, gyda phrisiau cyfartalog tai yn cynyddu 24% mewn blwyddyn.
Ar gyfer bob mis rhwng Ionawr a Gorffennaf, mae’r cynnydd mewn prisiau wedi bod yn uwch na 10% ym Mhowys hefyd, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bu twf blynyddol o 16.3% mewn prisiau cyfartalog yng Ngwynedd hyd at fis Gorffennaf 2021, a thwf o 16% yn Sir Benfro.
Mae’r ddwy sir yn cael eu hystyried fel ardaloedd poblogaidd â thwristiaid. Mae Ceredigion yn cael ei hystyried felly hefyd, ond yno bu’r twf blynyddol isaf yng Nghymru (6.2%).
Roedd y cynnydd dros 15% yng Nghaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf, Ynys Môn, Caerffili, Merthyr Tudful, a Blaenau Gwent hefyd.
Newid mewn amgylchiadau
Mae yna ychydig o dystiolaeth sy’n awgrymu bob pobol yn chwilio am dai mewn ardaloedd gwledig, yn hytrach na dinasoedd, oherwydd y newid yn eu hamgylchiadau’n sgil y pandemig, megis gallu gweithio o adra.
Ym mis Medi 2020, dangosodd arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 29% o oedolion oedd yn gweithio ym Mhrydain yn bwriadu gweithio o adra ar ôl y pandemig drwy’r amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser.
Ymhlith y bobol hynny, roedd 12% wedi ystyried symud ty, y rhan fwyaf ohonyn nhw i ardaloedd gwledig neu arfordirol.
Fodd bynnag, roedd patrwm cyffredinol o bobol yn symud o lefydd dinesig i lefydd gwledig yn y blynyddoedd cyn y pandemig a does dim data i awgrymu bod hynny wedi dod yn dueddiad cryfach yn ystod y pandemig, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Prisio allan”
Mae adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi fod pobol sy’n gweithio mewn ardaloedd sy’n boblogaidd â thwristiaid ar gyflogau isel, ar y cyfan.
Ar gyfartaledd, mae pobol sy’n gweithio yn yr ardaloedd hynny ar gyflogau is na’r bobol sy’n byw yno.
Yn yr ardaloedd hynny, mae gweithwyr yn gwneud llai o arian oherwydd y mathau o swyddi sydd yno, gyda’r sector lletygarwch yn cyflogi’r niferoedd uchaf.
O ganlyniad i’r cynnydd mewn prisiau “mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol – yn enwedig pobol ifanc neu rai ar gyflogau is – mewn perygl o gael eu prisio allan o’r farchnad dai”, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Gall hyn fod yn cyfrannu at y ffaith bod busnesau lletygarwch methu llenwi swyddi gwag, gyda’r diwydiant wedi’i leoli yn bennaf mewn ardaloedd twristaidd ac yn cynnwys cyfran uchel o weithwyr ifanc a gweithwyr ar gyflogau isel.”
Dangosa’r data bod pobol ifanc dan 30 wedi bod yn fwy tebygol na phobol dros 60 oed o ddweud eu bod nhw wedi colli incwm yn ystod y pandemig, er mai pobol rhwng 30 a 59 oed oedd y rhai mwyaf tebygol o ddweud hynny.
Fodd bynnag, mae pobol ifanc yn parhau i’w chael hi’n waeth o ran eu sefyllfa ariannol ehangach, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Fe wnaeth 34% o’r bobol dan 30 oed a wnaeth ymateb i’r Arolwg ar Safonau Byw ddweud eu bod nhw’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn y flwyddyn hyd at mis Mawrth 2021, y grŵp â’r ganran uchaf i ddweud hynny.
“Mae gan hyn oblygiadau i’r diwydiannau y mae economïau twristaidd yn dibynnu arnyn nhw, megis lletygarwch sy’n adrodd am lefelau uwch nag erioed o swyddi gwag,” meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Roedd bron i draean busnesau lletygarwch yn ei chael hi’n anodd llenwi swyddi gwag ddiwedd Awst 2021 (31%), ymysg adroddiadau bod gweithwyr yn cael eu prisio allan o brynu neu rentu wrth ymyl eu swyddi.”
Nid yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwybod beth yw effaith llawn y pandemig ar fforddiadwyedd tai eto, gan fod y data diweddaraf yn mynd hyd at Ebrill 2020 – cyn y cynnydd mewn prisiau tai.