Mae Llywodraeth Cymru am orfodi pobol i ddangos Pas Covid cyn gallu mynychu clybiau nos a digwyddiadau megis cyngherddau dan do, a gemau pêl-droed a rygbi lle mae mwy na 10,000 yn bresennol.

Daw’r rheol newydd wrth i’r Prif Weinidog ddweud fod achosion covid yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd.

Er hynny, bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf.

Ac mae Mark Drakeford yn annog pawb sy’n gallu, i weithio gartref, a sicrhau eu bod nhw wedi cael eu brechu yn llawn.

“Ledled Cymru, mae achosion o’r coronafeirws wedi codi i lefelau uchel iawn dros yr haf wrth i ragor o bobl ddod at ei gilydd a chyfarfod ac, yn drasig, mae rhagor o bobl yn marw o’r feirws ofnadwy hwn,” meddai’r Prif Weinidog.

“Y cyngor cryf iawn rydyn ni wedi’i gael gan ein cynghorwyr gwyddonol yw cymryd camau cynnar i atal heintiau rhag cynyddu ymhellach.

“Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw rhagor o gyfyngiadau symud a busnesau yn gorfod cau eu drysau eto. Dyna pam mae rhaid inni gymryd camau bach ond ystyrlon yn awr i reoli lledaeniad y feirws a lleihau’r angen am fesurau llymach yn nes ymlaen.”

Rheol newydd yn dod i rym ar 11 Hydref

Daw’r gofyniad i ddangos Pas Covid y Gwasanaeth Iechyd i rym ar 11 Hydref. Bydd yn golygu y bydd angen i bobl dros 18 oed gael Pas i fynd i’r canlynol:

  • Clybiau nos
  • Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau
  • Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl

Gall pobl sydd wedi’u brechu’n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs Covid i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

“Nid yw’r pandemig ar ben”

“Mae fy neges ichi heddiw yn syml ond yn ddifrifol – nid yw’r pandemig ar ben ac mae angen i bob un ohonom gymryd camau i’n diogelu ein hunain a’n hanwyliaid,” meddai Mark Drakeford.

“Mae gennym lefelau uchel o’r feirws yn ein cymunedau ac, er bod ein rhaglen frechu wych wedi helpu i atal miloedd yn rhagor o bobl rhag mynd yn ddifrifol wael neu farw, mae’r pwysau ar y GIG yn cynyddu.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd cyflwyno’r gofyniad i ddangos Pàs COVID yn helpu i gadw lleoliadau a digwyddiadau – llawer ohonynt ond wedi dechrau masnachu eto yn ddiweddar – ar agor.

“Mae dangos Pàs COVID eisoes yn rhan o’n hymdrech ar y cyd i gadw busnesau ar agor, ac mae rhai digwyddiadau mawr, fel gŵyl lwyddiannus y Dyn Gwyrdd, yn eu defnyddio. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r holl fusnesau yr effeithir arnynt i sicrhau bod y system hon yn cael ei chyflwyno a’i gweithredu’n ddidrafferth.

“Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu Cymru wrth i’r hydref nesáu.” 

“Cadw’r economi ar agor”

Mae Cydffederasiwn Diwydiannau Prydain wedi croesawu’r rheol Pas Covid newydd, ac yn dweud y bydd busnesau’n croesawu’r penderfyniad i aros ar Lefel Rhybudd Sero.

“Bydd busnesau sydd ond yn dechrau adfer ar ôl cyfyngiadau dinistriol y cyfnodau clo nawr yn croesawu’r penderfyniad bod y wlad yn aros at Lefel Rhybudd Sero,” meddai Ian Price, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiannau Prydain, Cymru.

“Fodd bynnag, gyda chyfraddau heintio’n parhau i symud i’r cyfeiriad anghywir, allwn ni ddim cymryd y platfform mae brechlynnau a phrofi wedi rhoi i ni yn ganiataol.

“Dyna pam fydd busnesau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i hybu cadw ar fesurau sylfaenol, fel gwisgo mygydau, ymysg staff a chwsmeriaid.

“Dylai’r bwriad i gyflwyno system pas Covid newydd dros Gymru helpu i gadw’r economi ar agor, caniatáu i fusnesau barhau i fasnachu ac adeiladu hyder yn yr adferiad, er eu bod nhw’n weithredol mewn rhai sectorau yn barod.

“Siomedig”

Ond, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, nid pasborts brechu yw’r ateb cywir – maen nhw yn ei alw yn benderfyniad “siomedig”.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw (17 Medi), pwysleisiodd Mark Drakeford nad pasborts brechu fydd eu hangen ond pas Covid – ac mae rhywun yn gallu cael pas drwy gael eu brechu neu drwy brofion llif unffordd negatif o fewn 48 awr.

Wrth drafod atal rhyddid sifil pobol mewn perthynas â’r pas Covid, dywedodd Mark Drakeford bod gan y miloedd o bobol sydd wedi dal Covid-19 yn ddiweddar hawl ehangach i gael mesurau i’w cadw’n sâff hefyd a bod y pas Covid yn trio dod o hyd i gydbwysedd rhwng rhyddid sifil pobol a rhyddid ehangach y gymdeithas.

“Dw i’n deall bod nifer o bobol eisiau dychwelyd at ymdeimlad o normalrwydd, ond nid pasbortau brechu yw’r ffordd o wneud hyn a rhaid i ni fod yn ofalus am y cynsail rydyn ni’n ei osod,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Byddai cyflwyno’r cardiau’n golygu bod gofyn i chi, am y tro cyntaf, ddangos eich data meddygol i ddieithryn er mwyn mwynhau rhyddid penodol yn ein cymdeithas, ond ni fydd yn helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo.”

Ymateb cynnar

Holl bwrpas cymryd y camau hyn nawr, yn gynnar, yw ceisio gwneud yn siŵr na fydd yn rhaid cyflwyno mesurau llymach yn ystod y gaeaf.

Er hynny, dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd i’r Wasg heddiw na fyddai’n diystyru mesurau pellach pe bai’r sefyllfa Covid-19 yn gwaethygu’n ystod y gaeaf.

Dywedodd Mark Drakeford bod cyngor gwyddonwyr SAGE wedi’u hannog i weithredu’n fwy pendant ac yn gynt, a bod Syr Patrick Vallance wedi dweud wrth weinidogion: “Mae angen i chi fynd yn gynt nag ydych chi’n meddwl rydych chi eisiau mynd, ac mae angen i chi fynd yn galetach nag ydych chi’n meddwl rydych chi eisiau mynd”.

Yn hynny o beth, mae pum cam yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru yn yr adolygiad hwn:

  1. Dechrau gyda’r ymgyrch i roi trydydd dos o’r brechlyn, gan wneud hynny’n sydyn ac effeithlon.
  2. Brechu plant 12 a 15 oed, a fydd yn dechrau ar 4 Hydref fel bod amser i rieni ystyried y penderfyniad.
  3. Ail-bwysleisio y dylai pobol sy’n gallu gweithio o adra wneud hynny.
  4. Sicrhau bod mygydau’n cael eu gwisgo mewn llefydd cyhoeddus lle mae hynny’n orfodol, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus gan wneud hynny drwy wneud yn siŵr bod y neges yn cael ei gyfleu’n glir a gweithredu’r gyfraith.
  5. Cyflwyno Pas Covid ar gyfer lleoliadau risg uchel.

Dywedodd Mark Drakeford eu bod nhw’n cyflwyno’r pas Covid gyda’r bwriad o wella sefyllfa iechyd y cyhoedd, ond os yw pobol yn sylwi ei bod hi’n haws cael eu brechu na gwneud prawf Covid bob tro maen nhw eisiau mynd i glwb nos neu ddigwyddiad mawr yna “yn beth da iawn”, meddai.

Yn y dyddiau nesaf, bydd gweinidogion yn ystyried a oes angen cyflwyno cyfraith i ddelio â phobol sy’n ffugio’r pas Covid, ond ar y cyfan mae’r rhan fwyaf o bobol eisiau gwneud y peth iawn, meddai Mark Drakeford.