Mae cynllun i adeiladu 300 o dai ar safle hen ysbyty Dinbych wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir, ond mae rhai cynghorwyr yn bryderus.
Dywedodd un wrth golwg360 ei fod am geisio sicrhau na fydd “y datblygiad yma ddim yn boddi tref Dinbych a’n bod ni ond yn rhyw fan lle mae pobol sy’n gweithio yng Nghaer yn cysgu”.
Cwmni peirianneg sifil lleol, Jones Bros, fydd yn gyfrifol am y gwaith ar gyrion y dref, a bydd y tai’n cael eu hadeiladu fesul tipyn dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Bydd wyneb hen adeilad Ysbyty Gogledd Cymru, sydd â statws rhestredig Gradd II, yn cael ei adfer, a bydd tu mewn yr adeilad yn cael ei droi’n fflatiau.
Yng nghanol yr 20fed ganrif, roedd Ysbyty Gogledd Cymru yn gartref i o tua 1,500 o gleifion oedd ag afiechyd meddwl, ond cafodd ei gau yn 1991 ac mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 1995.
Mae galw wedi bod gan drigolion Dinbych ers blynyddoedd i adfer y safle, sy’n destun i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyson.
“Gormod o dai”
Mae’r Cynghorydd Rhys Thomas, o ward Dinbych Isaf, wedi dweud bod yna deimladau cymysg am y datblygiad newydd.
“Wrth gwrs, mae angen gwneud rhywbeth â’r safle yma,” meddai wrth golwg360.
“Mae cymaint o drigolion Dinbych wedi bod eisiau i wyneb yr ysbyty gael ei achub a’i adfer, ac roedd llawer ohonyn nhw’n gweithio yn yr hen ysbyty.
“Yn ddiweddar, mae’r heddlu’n gorfod cael eu galw yno yn gyson, ac mae’r safle’n mynd ar dân bron yn fisol, felly mae angen gwneud rhywbeth yma.
“Ond, rydyn ni’n poeni bod gormod o dai yno i gymuned fel Dinbych.
“Mae yna ddau ddatblygiad yn digwydd yma’n barod – Cae Topyn a Chae Felin – ac mae yna sôn am ddatblygiad arall wrth Fferm Lodge.
“Rwy’n teimlo bod hynny’n ormod i gymuned Gymreig fel Dinbych ar un adeg.”
Dim tai fforddiadwy
Oherwydd mai’r elw o’r datblygiad tai sy’n cael ei ddefnyddio i achub y darnau rhestredig o adeilad yr hen ysbyty, does dim rhaid i’r datblygwyr, Jones Bros, adeiladu canran o dai fforddiadwy neu gymdeithasol.
“Mae’n fwy na faint o dai, mae o’r math o dai sy’n mynd i fod yno,” meddai Rhys Thomas yn ymhelaethu ar ei bryderon.
“Mae yna ddigon o drigolion yma yn Ninbych sydd ar gyflogau fel gewch chi mewn tref farchnad fechan – ydyn nhw’n mynd i fedru fforddio’r math o dai fydd yn cael eu hadeiladu yn safle’r hen ysbyty?
“Bydd dim un o’r tai ar safle’r hen ysbyty yn dai fforddiadwy, felly bydd yna ddim buddion i’r gymuned.
“Fy mwriad i, a grŵp Plaid Cymru’r Cyngor, ydy sicrhau bod y datblygiad yma ddim yn boddi tref Dinbych a’n bod ni ond yn rhyw fan lle mae pobol sy’n gweithio yng Nghaer yn cysgu.”
“Pwysau mawr”
Mae pryderon hefyd ynglŷn â’r effaith gaiff adeiladu cymaint o dai ar wasanaethau a ffyrdd lleol.
“Yn y diwedd, pan mae yna o gwmpas 300 o dai wedi cael eu hadeiladu, mae hynny’n mynd i roi pwysau mawr ar y dref farchnad fechan,” meddai Rhys Thomas.
“Does yna ond hyn a hyn o lefydd mewn ysgolion, a hyn a hyn o lefydd i weld doctor neu ddeintydd lleol.
“Hefyd, rhaid ystyried y bydd yna un neu ddau o geir ymhob un o’r tai, a’r unig ffordd sydd i fynd yno, heblaw lonydd cefn, yw drwy ganol tref Dinbych.
“Felly rydyn ni’n obeithiol y bydd arian yn dod o rywle i’w ddefnyddio oddi ar y safle er mwyn gwella’r mynediad yno ac i liniaru’r pwysau ar ysgolion a’r gwasanaeth iechyd a gofal.”