Mae nifer y troseddau cyffuriau ac arfau ar drenau, ac mewn gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru, wedi codi tua 60% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Daw’r cynnydd er gwaetha’r ffaith fod llai yn teithio ar drenau yn ystod y pandemig.

Yn ôl ystadegau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn holi gan y Ceidwadwyr Cymreig, cynyddodd troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau o 110 yn 2019/20 i 176 yn 2020/21, a bu cynnydd o 63% mewn troseddau yn ymwneud ag arfau yn 2020/21.

Bu 2,371 o droseddau ar drenau, gorsafoedd a llinellau Trafnidiaeth Cymru rhwng 2019 a 2021.

Mae’r data hefyd yn dweud fod 387 o achosion o gam-drin geiriol ac ymosodiadau corfforol yn erbyn staff Trafnidiaeth Cymru wedi’u cofnodi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Angen gwneud mwy i leihau troseddu ar ein trenau”

Dywedodd Natasha Asghar AoS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Drafnidiaeth: “Dylai teithwyr allu teimlo’n ddiogel pan maen nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a dylai aelodau o staff allu gwneud eu gwaith heb gael eu cam-drin.

“Mae angen i bobol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae angen gwneud mwy i leihau troseddu ar ein trenau, a fydd yn ei dro yn eu gwneud yn fwy deniadol i bobol eu defnyddio.

“Rwy’n erfyn ar y Llywodraeth Lafur hon i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain i wneud gwelliannau i droseddu a gwneud ein trenau’n amgylcheddau diogel i bawb.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.