Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad wedi damwain ffordd angheuol rhwng Caersws a Threfeglwys ddoe (16 Medi).

Tua 10:30 neithiwr, fe wnaeth fan dransit Ford lliw arian fynd oddi ar ffordd y B4569 ym Mhowys.

Mae’r heddlu’n credu bod y fan yn teithio i’r gorllewin tuag at Drefeglwys ar y pryd.

Yn anffodus, bu farw’r gyrrwr, dyn yn ei 30au, yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac yn derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r heddlu, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd ac sydd gan fideo dashcam, gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.