Yr Alban sy’n parhau i fod â’r gyfradd achosion Covid-19 uchaf ym Mhrydain.
Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif bod tua un o bob 45 o bobol wedi cael y firws yn yr wythnos hyd at 11 Medi – sydd tua 120,800 o bobol.
Dyma’r gyfradd uchaf ers i amcangyfrif ddechrau fis Hydref y llynedd.
Er bod y ganran o bobol a oedd yn profi’n bositif yn uwch yr wythnos honno, roedd cyfradd y cynnydd wedi arafu yn ôl yr ONS.
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cyflwyno pasborts brechu yn y wlad ar 1 Hydref.
Gweddill Prydain
Mae’r sefyllfa yng Nghymru bron yr un mor bryderus gyda’r ONS yn amcangyfrif bod tua un mewn 60 o bobol wedi cael Covid-19 yn yr wythnos hyd at 11 Medi – sy’n gynnydd o’r wythnos cynt (un mewn 65).
Mae hynny’n golygu bod o gwmpas 50,000 o bobol wedi dal y feirws yr wythnos honno.
Yn yr un cyfnod, mae’r amcangyfrif yn dangos bod un mewn 80 o bobol yn Lloegr, ac un mewn 75 yng Ngogledd Iwerddon wedi cael Covid-19.
Mae’r holl ffigyrau hyn yn cynnwys pobol sy’n byw mewn cartrefi preifat, a ddim yn cyfeirio at ysbytai a chartrefi gofal.