Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o dro pedol ar ôl cyhoeddi y bydd angen pas brechlyn i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi y bydd yn rhaid i bobl ddangos Pas Covid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o fis nesaf ymlaen, fel rhan o fesurau sy’n cael eu cyflwyno i helpu i reoli lledaeniad coronafeirws.

Daw’r gofyniad i ddangos Pas Covid y Gwasanaeth Iechyd i rym ar 11 Hydref. Bydd yn golygu y bydd angen i bobol dros 18 oed gael Pas i fynd i’r canlynol:

  • Clybiau nos
  • Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobol, fel cyngherddau neu gonfensiynau
  • Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobol
  • Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobol

Gall pobol sydd wedi’u brechu’n llawn yng Nghymru lawrlwytho Pas Covid i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel.

Mae hefyd yn caniatáu i bobol ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y Prif Weinidog wedi bod yn erbyn y syniad o’r blaen, gan dynnu sylw at y ffaith mai dim ond pythefnos ar ôl yr uchafbwynt mewn achosion y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno.

Ond yn ôl Mark Drakeford mae cyfraddau Covid-19 yn parhau’n uchel iawn yng Nghymru.

Fodd bynnag, bydd y lefel rhybudd yn cael ei chadw ar sero am y tair wythnos nesaf.

Anogodd bawb i weithio gartref lle bynnag y bo modd a sicrhau eu bod yn cael eu brechu’n llawn.

Bydd cynnydd hefyd mewn ymwybyddiaeth a gorfodaeth o fesurau diogelu eraill, gan gynnwys gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Mark Drakeford bod tua 30% o oedolion o dan 30 oed yng Nghymru eto i dderbyn y cynnig o frechu, ond gwadodd fod cyflwyno Pas Covid ar gyfer mynediad i glybiau nos neu ddigwyddiadau yn gosb.

“Nid wyf yn ei ystyried yn gosb i roi rhywbeth yn ei le a fydd yn helpu pobol ifanc i gadw’n ddiogel ac i helpu pobol eraill i gadw’n ddiogel hefyd,” meddai.

“Mae cael eich brechu yn rhoi manteision sylweddol i chi eich hun ac i eraill ac mae’n eich gwneud yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws i bobol eraill, ond nid yw’n ei atal rhag digwydd ac nid yw ychwaith yn eich atal rhag cael coronafeirws.

“Yr hyn mae’n ei wneud yw lleihau’r risg ac ychwanegu at yr amryw o bethau rydyn ni’n eu gwneud yng Nghymru i geisio lleihau’r risg.”

Trosedd o ffugio pas Covid?

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid gwneud ffugio Pas Covid yn drosedd.

“Byddwn yn ystyried dros y dyddiau nesaf a ddylid cyflwyno trosedd benodol o ffugio Pas Covid yn fwriadol,” meddai Mark Drakeford.

“Os oes yna bobol sy’n meddwl bod hyn yn hawdd a’u bod yn gallu dyfeisio canlyniadau, efallai y byddan nhw’n gweld bod canlyniadau sylweddol am wneud hynny.”

Dywedodd fod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr yn ceisio atal rhagor o gyfyngiadau symud yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd y Prif Weinidog y gall pobol sydd wedi’u brechu’n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pas Covid i ddangos a rhannu eu statws brechlyn.

Mae hefyd yn caniatáu i bobol ddangos eu bod wedi cael prawf negyddol o fewn y 48 awr ddiwethaf.

“Tro-pedol”

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: “Dyma dro pedol siomedig arall gan Brif Weinidog Llafur a ddywedodd wrthyf ym mis Gorffennaf ei fod yn erbyn y syniad o bobol yn gorfod dangos pasbort Covid i fynd i mewn i leoliad neu ddigwyddiad yng Nghymru.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn erbyn cyflwyno dogfennau o’r fath o’r cychwyn cyntaf, oherwydd y goblygiadau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol eang.

“Mae’r amseru gan weinidogion hefyd yn amheus a bydd yn dod bythefnos ar ôl yr uchafbwynt y don ddiweddaraf, yn ôl modelu’r gan y Llywodraeth Lafur ei hun, a rhyw ddeufis ar ôl i’r digwyddiadau mawr hyn ailddechrau a lleoliadau ledled y wlad.

“I lawer, hyd yn oed y rhai sy’n cefnogi cyfyngiad o’r fath, mae hyn yn edrych fel enghraifft berffaith arall o weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn cau drws y stabl ar ôl i’r ceffyl garlamu oddi yno.”

Dywedodd Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru ei bod “yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi teimlo bod yn rhaid iddi orfodi pasbortau Covid ar, er ei bod yn gweithredu’n fwy rhyddfrydol gyda chynnwys profion”.